Newyddion S4C

Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Castell-nedd Port Talbot

11/09/2023
gwrthdrawiad

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A465 ger Resolfen.

Bu farw Jonathan Davies, 32 oed, o Gastell-nedd mewn gwrthdrawiad pan darodd ei gar yn erbyn y rhwystr canolog i gyfeiriad y gogledd ger troad Resolfen.

Digwyddodd y gwrthdrawiad toc ar ôl 7 nos Wener 8 Medi.

Roedd yn cael ei adnabod gan ei ffrindiau fel ‘Archie’.

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu: "Roedd Jonathan yn fab annwyl i Carole, a'i ddiweddar dad, Allan (Tojo). Roedd yn ŵyr annwyl i'r ddiweddar Hilda ac yn nai hoffus i'r diweddar Keith, a hefyd Terry, Ann, Peter, a Malvern.

"Bydd colled fawr ar ei ôl gan ei holl gefndryd a'i gyfeillion.

"Magwyd Jonathan yng Nghastell-nedd ac roedd yn mwynhau golff o oedran ifanc.

"Enillodd bencampwriaeth hŷn Clwb Golff Castell-nedd yn 15 oed.

"Adeiladodd Jonathan rwydwaith cryf o ffrindiau yng Nghastell-nedd a Glyn-nedd trwy ei gariad at golff a rygbi.

"Yr oedd yn cael ei garu gan bawb oedd yn ei gyfarfod ac yn ei adnabod.

"Roedd Jonathan yn caru bod o gwmpas pobl ac roedd yn cyffwrdd â bywydau cymaint. Mae ei deulu wedi’u syfrdanu gan yr holl negeseuon caredig a chefnogaeth gan ffrindiau Jonathan. Mae gan bawb oedd yn ei adnabod stori ddoniol i'w hadrodd. Roedd yn enaid caredig ac roedd ganddo amser i'w ffrindiau bob amser.

"Rydym i gyd wedi ein syfrdanu gan y newyddion ofnadwy o drist hyn, ac rydym yn gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon i geisio delio â’r hyn sydd wedi digwydd. Roedd cymaint yn caru Jonathan a bydd colled fawr ar ei ôl.”

Mae Heddlu De Cymru yn dal i apelio am lygaid-dystion i’r gwrthdrawiad ac yn gofyn i bobl sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2300304093.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.