Newyddion S4C

Anhrefn gêm bêl-droed yn Y Fflint: Heddlu yn apelio am gymorth i adnabod pedwar person

11/09/2023
S4C

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am gymorth i adnabod pedwar person mewn cysylltiad â digwyddiad o anhrefn mewn gêm bêl-droed yn Sir y Fflint yn gynharach eleni.

Ar ddydd Sadwrn Ebrill 8, cafodd dyn ei anafu’n ddifrifol a’i gludo i’r ysbyty yn Aintree ar ôl adroddiadau o ymladd rhwng cefnogwyr yn gêm Uwch Gynghrair JD Cymru rhwng Y Fflint a Chaernarfon yn Stadiwm Essity yn Y Fflint.

Mae’r dyn, sydd yn gefnogwr tîm pêl-droed Caernarfon, yn parhau i wella yn dilyn y digwyddiad.

Mae tri unigolyn gan gynnwys llanc 15 oed, dyn 19 oed a dyn 41 oed a gafodd eu harestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar a chlwyfo’n fwriadol yn parhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.

Mae cyfanswm o chwech o bobl wedi cael eu cyfweld fel rhan o'r ymchwiliad.

Mae’r heddlu yn apelio am gymorth i adnabod y pedwar person yn y lluniau isod fel rhan o’u hymchwiliad.

Image
newyddion

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sy’n adnabod unrhyw un o’r bobl yn y delweddau, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth mewn perthynas â’r digwyddiad, i gysylltu ar 101, neu drwy wefan y llu, gan ddefnyddio’r cyfeirnod A050936.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.