
'Ychydig yn rhy agos': Canmoliaeth i Gymru ar ôl trechu Ffiji yng Nghwpan Rygbi’r Byd
Roedd Cymru yn haeddu ennill eu gêm agoriadol yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn erbyn Ffiji, er iddyn nhw dderbyn ‘tipyn bach o lwc’ ar hyd y ffordd.
Dyna farn cyn-faswr Cymru, Jonathan Davies, wrth ddadansoddi buddugoliaeth tîm Warren Gatland o 32 pwynt i 26 nos Sul yn Bordeaux.
Mae’r fuddugoliaeth pwynt bonws wedi rhoi Cymru yn ail safle yn Grŵp D, tu ôl i Awstralia, wrth iddyn nhw edrych ymlaen at herio Portiwgal ddydd Sadwrn nesaf.
Ond roedd Davies, oedd yn sylwebu ar y gêm ar S4C, yn credu y dylai Cymru wedi gallu derbyn mwy o gardiau melyn yn dilyn sawl achos o ddiffyg disgyblaeth.
“Tipyn bach yn rhy agos,” meddai Davies.
“Oedd e’n gêm ffantastig, roedd Cymru di rhoi popeth, odd Ffiji ‘di rhoi popeth. Rhaid i ni gofio, ma Ffiji yn uwch na Chymru yn rankings y byd ag ella nhw oedd y ffefrynnau, ond oedd y rheolaeth a’r amddiffyn gan y bois i gyd yn ffantastig."
🗣 JOSH ADAMS
— S4C Rygbi (@S4CRygbi) September 10, 2023
"..so ni moin gemau felna lot eto!" 😅
Sai'n meddwl allai nerfau ni ymdopi gyda gêm arall fel yna Josh! 😆
🏴 v 🇫🇯
📺 @S4C
💻 https://t.co/zooIJgMjNR#RWC2023 | @WelshRugbyUnion | @S4Cchwaraeon pic.twitter.com/njotlxrDpj
Ychwanegodd Davies: “Fi’n credu jyst ar y diwedd, oedden ni’n haeddu ennill a fi mor falch. Ni ‘di bod yn y sefyllfa hyn o’r blaen, ac mae ennill y gêm gyntaf yn bwysig iawn yng Nghwpan y Byd.
“Oeddan nhw’n lwcus falle bod nhw ddim wedi cael cwpwl o gardiau melyn arall, ond ti methu tynnu dim byd bant oddi wrthyn nhw – nhw sydd wedi ennill, gêm gorfforol, gêm gyntaf Cwpan y Byd, ni’n dod bant gyda phwynt bonws.

“Ti’n gweld yr ymdrech rhoddon nhw a’r rhyddhad ar ddiwedd y gêm, jyst i ddangos pa mor anodd oedd e i ennill, a pha mor bwysig oedd e. Gewn nhw ddim gêm mor gorfforol â hynny yn erbyn Awstralia.
“A fi’n sicr bod Awstralia 'di edrych ar y gêm yna a meddwl, mae Ffiji gyda ni penwythnos nesaf a bydd hwnna yn gêm anodd. Nawr, i Ffiji, bydd rhaid iddyn nhw ennill hwnna.
"Oedd yr ymdrech yn wych, amddiffyn yn wych, cymeron nhw eu cyfleoedd nhw. Oni’n hapus gweld George North yn cario’r bêl yn y canol. Collon nhw reolaeth tipyn bach a ma hwna’n dod gyda pwysau.“
‘Hyder’
Mae cyn-fewnwr Cymru, Mike Phillips, yn credu bydd y perfformiad yn rhoi hwb i hyder y tîm ar gyfer gweddill y Bencampwriaeth:
“Roedd amddiffyn Cymru drwy gydol y gêm yn arbennig, mor gadarn a gryf ac mae’n amhosib atal rhai o’r chwaraewyr ‘ma sy’n dod o Ffiji, maen nhw mor dalentog,” meddai.

“Ond roedd y calon nath Cymru ddangos mas ar y cae jyst yn briliant. Oedd e’n gêm mor ddiddorol, enjoiais i fe mas draw a dyna chi advert i rygbi. Jyst yn briliant. Tacl ‘na gan Josh Adams ar yr asgellwr, oedd e’n enfawr. Dwi’n gweld i gyd o’r bois yn sefyll lan a roedd e’n briliant gweld y calon ‘na – ‘so ni ‘di gweld ‘na ers sbel, oedd e’n grêt i weld.
“Mae hwn yn mynd i roi shwt gymaint o hyder i nhw nawr. Gynta i gyd, bydd angen ice bath arnyn nhw i gyd achos oedd y gêm mor gadarn.
"Oedd y ddisgyblaeth yna a’r ffordd wnaethon nhw aros yn y gêm, y ffordd oeddan nhw wedi ymosod hefyd. Wrth gwrs mae'r gwrthwynebwyr wastad yn cael amserau efo’r bêl a gyda’r momentwm, ond wnaethon nhw sefyll yn gadarn.”
Newidiadau yn erbyn Portiwgal
Ychwanegodd Rhys Priestland, y cyn-faswr rhyngwladol: “Roedden nhw wedi dangos shwt calon yn fan ‘ne. I feddwl, efo ugain munud i fynd, dim ond un tîm odd yn mynd mlaen i ennill hwnna, roedd Ffiji yn edrych wedi blino. Ond naethon nhw ffeindio rhywbeth o rywle.
“A siŵr o fod, tipyn bach o lwc hefyd gyda Chymru bod nhw heb gael fwy o gardiau melyn, i fod yn onest."

Ychwanegodd: “Oedd lot o bwysau ar Gymru. Roedd Ffiji yn ail dîm pawb siŵr o fod – heb law bo chi’n dod o Gymru, dw i’n siŵr bydda bawb eisiau i Ffiji ennill, mae pawb yn dwli watchad nhw.
"Ond fi’n credu wnaeth Cymru rhoi perfformiad da iawn heddi, tipyn bach o lwc ond mae bob tîm sy’n gwneud yn dda yng Nghwpan y Byd angen tipyn bach o lwc.
“Bydd sawl newid yn erbyn Portiwgal fi’n credu. Mae’n bwysig fod pawb – y 33 sydd mas yma – yn cael cyfle i chwarae a fi’n credu bydd lot o newidiadau wythnos nesaf ac os wnawn nhw rhoi’r un ymdrech i mewn, fi’n credu byddan nhw’n iawn wythnos nesaf.”