
Y DU yn anfon cymorth i Moroco wedi i dros 2,000 o bobl farw mewn daeargryn
Mae’r DU ymysg y gwledydd sydd wedi anfon cefnogaeth i Moroco ar ôl i ddaeargryn nerthol ladd dros 2,000 o bobl nos Wener.
Mewn ymateb i’r dinistr, mae’r llywodraeth wedi hedfan dros 60 o arbenigwyr chwilio ac achub, pedwar ci chwilio, tîm asesu meddygol, ac offer achub i Moroco.
Mae sawl gwlad wedi cynnig cymorth i Moroco, gan gynnwys yr Unol Daleithiau a Ffrainc, ond fe wnaeth swyddogion “asesu” y sefyllfa a dweud y byddai’n derbyn cymorth rhyngwladol gan ddim ond pedair gwlad: Prydain, Sbaen, Qatar a’r Emiraethau Arabaidd Unedig.
Dywedodd llywodraeth y wlad fod o leiaf 1,400 o bobl wedi eu hanafu yn sgil y daeargryn oedd yn mesur 6.8 ar raddfa Richter ym mynyddoedd Atlas i’r de-orllewin o ddinas Marrakesh am tua 23.00 amser lleol nos Wener.
Roedd ôl-gryniad o 4.9 tua 20 munud yn ddiweddarach.
Bu farw pobl yn ninas hanesyddol Marrakesh ac mewn nifer o ardaloedd i’r de.

Mae offer chwilio arbenigol y DU yn cynnwys dyfeisiau gwrando seismig, offer torri concrit, ac offer eraill y gellir eu defnyddio i fynd i'r afael â rwbel i gyrraedd pobl o dan adeiladau sydd wedi dymchwel.
Bydd ôl-sioc yn parhau i daro Moroco am ddyddiau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd, meddai cyfarwyddwr y Ganolfan Seismoleg Ewropeaidd-Môr y Canoldir.
Ers i’r daeargryn daro, mae 25 o ôl-gryniadau wedi’u cofnodi hyd yn hyn, meddai Remy Bossu.
Fe fydd y DU yn parhau mewn cysylltiad agos ag awdurdodau Moroco dros yr ymdrechion achub.
'Cyfnod dinistriol'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Grant Shapps: “Mae hwn yn gyfnod dinistriol i bobl Moroco, yn enwedig y rhai sydd ag anwyliaid y maent wedi’u colli neu ar goll.
“Mae’r DU wedi cymryd rhan flaenllaw yn yr ymdrech ryngwladol i wella gweithrediadau chwilio ac achub - gan symud yn gyflym i ddefnyddio ein gallu strategol unigryw, personél arbenigol a chymorth.
“Rydyn ni’n sefyll yn gadarn gyda Moroco wrth iddyn nhw ddod trwy’r digwyddiad ofnadwy hwn.”
Lluniau: Twitter @MSHNLP/@mishika_singh