Newyddion S4C

Llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen yn ymddiswyddo

10/09/2023
cusan Rubiales Hermoso

Mae Luis Rubiales wedi ymddiswyddo o’i swydd yn llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen.

Cafodd ei feirniadu yn hallt am gusanu ymosodwr Sbaen, Jenni Hermoso wedi iddo ennill Cwpan y Byd gyda thîm y menywod.

Dywedodd Jenni Hermoso nad oedd hi wedi cydsynio i’r gusan.

Cyhoeddodd Luis Rubiales ddatganiad yn dweud ei fod cyflwyno llythyr o ymddiswyddiad, wedi iddo gael ei atal o'i waith gan Fifa.

“Ar ôl cael fy atal gan Fifa, mae’n amlwg na fyddaf yn gallu dychwelyd i’m gwaith,” meddai datganiad Rubiales.

“Nid yw mynnu aros a dal gafael yn mynd i helpu y ffederasiwn na phêl-droed yn Sbaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.