Newyddion S4C

'Y Wal Goch' i ddychwelyd am y tro cyntaf ers 2019

05/06/2021
Y Wal Goh

Bydd 'Y Wal Goch' yn cael dychwelyd i wylio gêm bêl-droed Cymru am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig ddydd Sadwrn.

Bydd y tîm cenedlaethol yn wynebu Albania mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda'r gic gyntaf am 17.00.

Dyma'r tro cyntaf i gefnogwyr gael gwylio Cymru'n chwarae'n fyw ers mis Tachwedd 2019, gyda thorf o 6,500 yn cael mynd i wylio yn ddiweddarach.

Dyma gêm gyfeillgar olaf Cymru cyn eu hymgyrch Euro 2020, fydd yn dechrau'n swyddogol ddydd Sadwrn, 12 Mehefin, wrth iddynt herio Swistir yn Baku.

Yna, bydd y tîm yn wynebu Twrci ar 16 Mehefin, eto yn Baku, cyn teithio i Rufain i herio'r Eidal ar 20 Mehefin. 

Nid oedd cefnogwyr yn bresennol yn y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Ffrainc nos Fercher, gyda'r crysau cochion yn wynebu noson heriol yn Nice ar ôl colli 3-0.

Nid yn unig oedd y canlyniad yn ergyd, mae cerdyn coch dadleuol i Neco Williams yn golygu na fydd ar gael i chwarae yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae cefnogwyr 'Y Wal Goch' wedi cael eu hannog gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r tîm o adref, ond daeth cadarnhad brynhawn dydd Gwener y bydd modd cynnal rhanbarthau cefnogwyr, neu 'Fan Zones', gan ddilyn cyfres o ganllawiau penodol.

Bydd Cymru v Albania yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C gyda'r gohebu yn dechrau am 16.30.

Llun: Llywodraeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.