Newyddion S4C

Malcs a’i farn: ‘Mae Rob Page yn haeddu amser'

11/09/2023

Malcs a’i farn: ‘Mae Rob Page yn haeddu amser'

Fe fydd Cymru yn wynebu Latfia nos Lun wrth barhau â'u hymgyrch i gyrraedd Ewros 2024.

Yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn De Corea nos Iau wrth baratoi, dyma argraffiadau cyn-ymosodwr Cymru a sylwebydd Sgorio, Malcolm Allen, ar yr her sy'n wynebu dynion Rob Page yn Riga yn ei golofn i Newyddion S4C:

Wel ar ôl cael perfformiad oedd yn gaddo lot yn erbyn de Corea, ‘da ni’n mynd drosodd i Latfia yn llawn hyder ‘dydan.

Mae'r chwaraewyr yn barod hefyd, dim anafiadau o gwbl ond mae i fyny i’r chwaraewyr mawr.

Maen nhw wedi delio gyda sefyllfa fel hyn o’r blaen i Gymru. Gafodd Aaron Ramsey, capten y tîm, ychydig o amser noson ar y cae nos Iau ac yn sicr mae o’n mynd i dynny rhain efo fo.

Pawb efo'i gilydd - ‘da ni’n gryfach ‘da ni’n gwybod hynny.

Ga’th Brennan Johnson dipyn o amser, rhyw hanner yn erbyn De Corea ‘do, ond naethon ni ddim gweld llawer ond fflachiau ganddo fo.

Ond o’n ni’n gadarn a heb ildio felly mae hwnna’n sefydlu rhyw sefyllfa sefydlog. Felly dwi’n edrych ymlaen i’r gêm yn fawr iawn, dwi’n hyderus, dwi’n deud nawn ni guro’r gêm o ddwy neu dair gôl i ddim.

Dwi’n credu wnaeth y glec yna gan Croatia o bump gôl i ddim wneud dent mawr yn hyder Latfia hefyd. Felly dechrau ar y droed flaen, tempo uchel i’r gêm a ni yn curo!

'Hwb i'r tîm'

Fe fydd canlyniadau nos Wener gyda Croatia yn curo Latfia o 5-0 a Thwrci ac Armenia yn cael gêm gyfartal yn rhoi hwb i chwaraewyr Rob Page cyn y gêm anferthol yn Latfia. ‘Da ni mewn gwell sefyllfa nag oedden ni cyn y gemau yma.

Fe fydd y perfformiad yn erbyn De Corea wedi neud byd o les i ni. Ond fe fydd hon dipyn yn anoddach coeliwch fi. 

Deud hynny, gêm gyfeillgar oedd hi yn erbyn De Corea a weles i ddim tacl galed gan neb. Mi fydd yn sioc os na fydd Jordan James yn cadw ei le yn erbyn Latfia.

Fe wnaeth gadw pethau’n syml efo’r bêl a phob tro mewn safle da yn gwarchod yr amddiffyn pan allan o feddiant. Roedd yn rhoi balans da efo Ethan Ampadu ac yn rhyddhau Ramsey i chwarae yn ei rôl orau yn y rhif 10 yna lle mae’n medru creu a bod mewn safleoedd i sgorio goliau hefyd.

Mae pa mor bwysig yw’r gêm yma i ddyfodol Rob Page yn gwestiwn mawr, ond d’oes neb arall wedi ein rheoli mewn cystadlaethau Cwpan y Byd a’r Ewros, heb law amdano fo.

'Amyneddgar'

Ydy o’n haeddu’r amser? Ydy mae o ac mae’n rhaid i ni fod yn amyneddgar oherwydd ‘da ni yn mynd trwy’r trosiad gyda gymaint o chwaraewyr yn ymddeol, yn enwedig ein chwaraewr gorau ni, Gareth Bale. 

Ond ‘da ni wedi bod yn rhy hawdd i chwarae yn erbyn yn ddiweddar, yn rhy rigid yn ein system. Yn sicr os ‘da ni’n colli’r gêm fydd ‘na broblemau.

Canlyniadau sy’n dewis dyfodol pob rheolwr, ond dwi’n gobeithio iddo gadw’i swydd.

Yn bendant, nawn ni guro’r gêm yma ond ‘da ni angen curo’r pedair nesaf felly mi fydd y pwysau yn cynyddu.

Dwi yn teimlo ar ôl y glec ga’th Latfia yn Croatia mi fydda nhw yn dal i frifo.

Mae gymaint o’r Wal Goch yna i gefnogi’r hogia fel maen nhw fel arfer. Felly dwi’n gweld dim canlyniad gwahanol, dyna pa mor ffyddiog a hyderus ‘dw i yn mynd i mewn i’r gêm.

Dyma fy nhîm i a dwi’n mynd gyda phump yn y cefn gyda’r sgwâr yng nghanol y cae a wedyn Brennan Johnson fel blaenwr a fo fydd yn arwain y llinell flaen:

Ward, Roberts, Mepham, Rodon, Davies, Williams, James, Ampadu, Wilson, Ramsey a Johnson.

Y peth pwysig yw ein bod ni ddim rhy dyfn a bod y bylchau rhwng yr amddiffyn, canol cae a’r blaenwyr ddim yn rhy bell oddi wrth ei gilydd.

Bydd gêm Latfia v Armenia i’w gweld yn fyw ar S4C am 19.45 nos Lun

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.