Newyddion S4C

Rhybudd melyn am stormydd ar draws gogledd Cymru ddydd Sul

10/09/2023
Rhybudd melyn

Mae rhybudd melyn am stormydd a chawodydd trymion mewn grym ar draws gogledd Cymru ddydd Sul. 

Mae'r rhubudd mewn grym o 14:00 tan 23:59.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod llifogydd hefyd yn bosib mewn mannau yn sgil cyfnodau o hyd at 50mm o law mewn dwy awr. 

Mae’r Swyddfa Dywydd yn annog unigolion i fod yn wyliadwrus wrth deithio, ac fe all y stormydd achosi oedi i drafnidiaeth gyhoeddus. 

Mae posibilrwydd y gallai rhai ffyrdd gael eu cau hefyd oherwydd y stormydd. 

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
•    Conwy
•    Sir Ddinbych
•    Sir y Fflint
•    Gwynedd
•    Ynys Môn
•    Wrecsam

Tywydd braf

Daw'r rhybudd wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi diwrnod poethaf y flwyddyn ar draws y DU ddydd Sadwrn.

Roedd y tymheredd wedi taro 32.7C ym maes awyr Heathrow.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.