Elfyn Evans yn y trydydd safle ar Rali’r Acropolis
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn y trydydd safle ar ddiwedd trydydd diwrnod Rali'r Acropolis yng Ngroeg.
Roedd Evans yn bedwerydd ar ôl pum cymal ddydd Gwener.
Fe gollodd ychydig o dir gan gwympo i’r pumed safle ar ôl dod yn 14eg ar y nawfed cymal, sef trydydd cymal ddydd Sadwrn.
Ond bu’n rhaid i arweinydd y rali, Thierry Neuville, roi’r gorau iddi ar gymal deg ar ôl difrodi olwyn flaen a hongiad ei gar.
Fe roddodd hyn hwb i obeithion Evans wrth iddo ddringo i’r pedwerydd safle ac yna i’r trydydd safle erbyn diwedd y dydd.
Fe fydd y rali yn dod i ben yn dilyn tri chymal ddydd Sul.
Kalle Rovanperä o’r Ffindir sy’n arwain gyda Daniel Sordo o Sbaen yn ail.
DYDD SADWRN ✅
— Ralïo+ (@RalioS4C) September 9, 2023
ELFYN AR Y PODIWM ✅#AcropolisRally #EE33 #WRC pic.twitter.com/XMLO0XNZgy
Llun: X/Elfyn Evans