Newyddion S4C

Lansio sianel Wyddeleg newydd i blant

Cula4

Mae sianel Wyddeleg newydd i blant wedi lansio yn Iwerddon.

Mae Cúla4 yn sianel newydd gan y darlledwr TG4 a bydd yn arlwy ar gael ar deledu, ar-lein ac ar app.

Bydd yr orsaf yn anelu at blant hyd at 12 oed er mwyn sicrhau bod cynnwys adloniannol ac addysgol ar gael drwy gyfrwng yr iaith.

Fe fydd yn darlledu bob dydd rhwng 6.00 a 20.00.

Wrth siarad yn y lansiad dywedodd Gweinidog Cyfryngau Gweriniaeth Iwerddon, Catherine Martin y bydd y gwasanaeth newydd yn "rhoi'r cyfle i TG4 wasanaethu cynulleidfaoedd Gwyddelig iau yn well”.

“Rwy'n falch iawn o weld fod yr amserlen yn cynnwys cyfuniad o newyddion, addysg ac adloniant sy'n canolbwyntio ar blant.”

Ychwanegodd cyfarwyddwr TG4, Alan Esslemont, fod lansio’r sianel “o bwys hanesyddol”.

Mae tua 1.77m o bobol yng Ngweriniaeth Iwerddon yn gallu siarad Gwyddeleg, gyda dros 300,000 yn rhugl neu’n siaradwyr iaith gyntaf.

Mae modd gwylio arlwy y sianel newydd ar cula4.com.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.