Newyddion S4C

Carol Vorderman ‘yn hapus i golli gwaith’ wrth ymgyrchu yn wleidyddol

Carol Vorderman

Mae’r cyflwynydd teledu Carol Vorderman wedi dweud ei bod hi’n “hapus” i golli gwaith o ganlyniad i’w hymgyrchu gwleidyddol.

Mae’r cyn seren Countdown 62 oed o Brestatyn wedi bod yn llafar ei beirniadaeth o Lywodraeth y DU ar safle X (Twitter gynt).

Mae hi wedi dadlau gyda chadeirydd y Blaid Geidwadol, Greg Hands, y gweinidog materion menywod, Maria Caulfield, a’r gweinidog Materion Cyn-filwyr, Johnny Mercer, ar y safle.

Arweiniodd ei ffrae gyda Greg Hands at ddileu nifer o’i thrydariadau a chyhoeddi cywiriad ffurfiol ddydd Iau.

Roedd Greg Hands wedi galw arni i ymddiheuro am negeseuon “niweidiol” amdano.

Mae hi hefyd wedi ei beirniadu gan Johnny Mercer a'i galwodd yn ddynes “hynod o annymunol”, a ddoe cyhoeddodd y Daily Mail erthygl yn gofyn pam bod Carol Volderman wedi troi i mewn i “troll Twitter chwerw”.

'Emosiynol'

Ond dywedodd Carol Vorderman  nad oedd ots ganddi fod rhai yn ei beirniadu.

“Does dim ots gen i – rydw i bron yn 63, rydw i wedi gwneud fy arian. Rydw i wedi gwneud popeth," meddai.

“Beth yw’r peth gwaethaf all ddigwydd? Fy mod i’n colli ambell i swydd? Mae hynny’n iawn gen i.

“Fe gan nhw daflu unrhyw beth sydd gyda nhw ata i.”

Dywedodd ei bod hi wedi cwrdd â sawl aelod o’r cyhoedd oedd yn “caru” y ffaith ei bod hi mor llafar ei barn.

“Roedden nhw wedi ceisio ein argyhoeddi ni nad oedd ots gan bobl am Partygate, ond mi’r oedden ni a doedden ni ddim am anghofio’r peth,” meddai.

Dywedodd ei bod hi hefyd yn canolbwyntio ar bwnc taliadau i gwmnïoedd i ddarparu gwasanaethau Covid oedd yn “bwnc emosiynol iawn”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.