Apêl heddlu yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Castell-nedd Port Talbot
09/09/2023
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad ar ffordd ddeuol yr A465 ger Resolfen yn Sir Castell-nedd Port Talbot.
Bu farw dyn 32 oed lleol oedd yn gyrru car Ford Fiesta gwyrdd pan darodd yn erbyn y rhwystr canolog i gyfeiriad y gogledd ger trofan Resolfen am tua 19:15 nos Wener.
Dywedodd y llu fod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deulu’r dyn.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 230030409.