Newyddion S4C

Angen ailadeiladu colofn ‘anesfydlog’ yng nghanolbarth Cymru

Piler Rodney

Bydd angen ailadeiladu yn hytrach nag atgyweirio colofn sy’n Heneb Gofrestredig yng nghanolbarth Cymru, yn ôl y corff sy’n gyfrifol amdani.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw wedi dechrau ar y gwaith o atgyweirio'r tirnod sydd ym Mhowys i'r de o Wrecsam yn gynharach eleni.

Ond “canfuwyd bod cyflwr y piler yn llawer mwy ansefydlog nag yr oedd yr arolygon cyntaf wedi'i ddangos,” medden nhw.

“Cymerir gofal mawr i sicrhau bod yr heneb yn cael ei hailadeiladu mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r strwythur gwreiddiol yn ffyddlon.”

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu mai'r ffordd fwyaf priodol o weithredu yw datgymalu ac ailadeiladu'r strwythur, medden nhw.

“Roedd cyflwr y strwythur mor ansefydlog bod angen stopio gwaith ar y safle er mwyn peidio â pheryglu diogelwch gweithwyr ac i ganiatáu i gynlluniau newydd gael eu dylunio,” meddai llefarydd.

‘Dirywio’

Adeilad rhestredig gradd II* yw Colofn Rodney ac mae hefyd yn Heneb Gofrestredig, o ystyried ei lleoliad o fewn ffiniau bryngaer gofrestredig o'r Oes Haearn.

Mae’r golofn yn dathlu codi arian yn 1781 i anfon coed derw o'r ardal i Fryste i adeiladu llynges y Llyngesydd George Brydges Rodney.

Dywedodd Ruairi Barry, Rheolwr Prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw’n “gwybod pa mor bwysig yw Colofn Rodney i'r cymunedau o'i chwmpas, ac y gallai rhai fod yn anhapus â’r syniad o’i thynnu i lawr a’i hailadeiladu”.

“Daethom i’r penderfyniad hwn yn unig ar ôl i ymchwiliadau arfaethedig roi gwell dealltwriaeth inni o'r problemau strwythurol mae'r golofn yn eu hwynebu. Mae ei chyflwr wedi dirywio i’r fath raddau fel ei bod yn amhosibl ei hatgyweirio.

“Fel cofadail restredig, mae’r piler wedi’i ddiogelu’n hynod o dda ac felly ni ellir mynd ati’n syml i’w ddymchwel. Byddwn yn cadw at ofynion gwarchod treftadaeth, a byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ailadeiladu mewn modd ystyriol a sensitif.”

Image
Piler Rodney

‘Poblogaidd’

Dywedodd Bill Lee, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Save Rodney's Pillar (SRP):

"Mae CNC wedi diweddaru ein hymddiriedolwyr ar ganfyddiadau'r arolwg diweddar, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda nhw i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn i sicrhau bod y piler yn cael ei hailadeiladu a'i bod yno am genedlaethau lawer i ddod.

"Rydyn ni eisiau i'r piler barhau i fod yn lle poblogaidd i ymweld ag ef ac i fod yn ddarn pwysig o hanes lleol."

Mae tîm arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda CADW a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i'r ffordd orau o wneud y gwaith angenrheidiol, medden nhw.

Bydd y golofn yn parhau i fod ar gau i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Ni ellir cynnig amserlen ar gyfer cwblhau'r gwaith ar hyn o bryd, gan fod y cynlluniau diwygiedig yn dal i gael eu paratoi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.