Newyddion S4C

Gwrthod caniatâd cynllunio i deulu sydd eisiau byw ymysg eu ceirw a’u coed Nadolig

Y fferm a charw

Mae peryg y gallai teulu gael eu gwneud yn ddigartref wedi i gais i adeiladu tŷ ymysg eu cwmni ceirw a coed Nadolig gael ei wrthod.

Roedd Simon Garrett wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer tŷ ar fferm ger pentref Graianrhyd, Yr Wyddgrug.

Dywedodd fod rhaid i gartref y teulu fod gerllaw'r ceirw Llychlyn er mwyn gallu edrych ar eu holau nhw. Mae gan y teulu hefyd fusnes ar yr un safle yn gwerthu coed Nadolig.

Roedd y teulu eisoes wedi gwerthu eu cartref blaenorol yn 2017 a hynny er mwyn buddsoddi £150-200,000 yn y busnes.

Ers hynny roedden nhw wedi bod yn byw mewn caban - ond rhai blynyddoedd yn ôl fe benderfynodd Cyngor Sir Ddinbych gyflwyno hysbysebion o orchymyn iddyn nhw symud oddi yno.

Yr wythnos hon fe wrthododd cynghorwyr eu cais am dŷ newydd parhaol ar y safle.

Wrth annerch y pwyllgor cynllunio dywedodd Simon Garrett: “Oherwydd natur unigryw'r ceirw a’u hanghenion mae’n hollbwysig ein bod ni’n byw ymysg yr hyddgre.

“Maen nhw’n anifeiliaid clyfar iawn ac ysbrydol ac mae gallu rhyngweithio yn gyson gyda’r hyddgre yn hollbwysig.

“Does gyda ni ddim bwriad i gymryd mantais o’r system gynllunio – dim ond i ofalu am ein teulu a diogelu eu dyfodol a dyfodol y fferm.”

‘Cynsail peryglus’

Dywedodd y cynghorydd Terry Mendies sy’n cynrychioli'r ward bod rhan fwyaf y trigolion lleol yn erbyn caniatáu’r cais cynllunio.

“Roedd Mr Garrett wedi gwerthu cartref y teulu ac wedi prynu'r tir amaethyddol ac wedi symud ei deulu i eiddo dros dro,” meddai.

“Mae’r eiddo dros dro wedi parhau am chwe blynedd. Dyna’r pwynt amlwg.

“Mi wnaeth o werthu’r tŷ teuluol oedd yn eithaf agos at y busnes sydd yno rŵan, ac wedyn penderfynu symud ei deulu ar dir amaethyddol.

“Mae’n ymddangos mai’'r unig reswm y mae o wedi cyflwyno y cais cynllunio ydi fod yna hysbyseb o orchymyn ers rhai blynyddoedd.

“Os yw’r cais yn cael ei ganiatáu mae’n gosod cynsail peryglus ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd swyddogion cynllunio eu bod nhw’n ymchwilio i weld pa adeiladau ar safle’r fferm oedd angen caniatâd cynllunio.

Roedd yn bosib y byddai'r teulu yn ddigartref os oedd y cais cynllunio yn cael ei wrtho, medden nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Sandilands bod camgymeriadau wedi eu gwneud ond y dylai’r pwyllgor ddangos tosturi tuag at y teulu.

Ond fe ddilynodd cynghorwyr argymhelliad swyddogion y cyngor a phleidleisio yn erbyn y cais.

Llun: Fferm North Hills, Graianrhyd, yr Wyddgrug a (dde) carw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.