Newyddion S4C

Dal Daniel Khalife yn Llundain wedi iddo ffoi o’r carchar

09/09/2023
Daniel khalife

Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw wedi dal Daniel Khalife bedwar diwrnod wedi iddo ffoi o’r carchar.

Dywedodd yr heddlu fore dydd Sadwrn eu bod nhw wedi bod yn chwilio ardal Chiswick yng ngorllewin Llundain yn dilyn “gweithgaredd casglu gwybodaeth a chadarnhad ei fod wedi ei weld gan aelodau’r cyhoedd dros nos".

Daeth cadarnhad toc cyn 11yb eu bod nhw wedi ei ddal.

Roedd yr heddlu yn credu bod Khalife, 21, wedi gadael y carchar drwy’r gegin yn HMP Wandsworth, lle'r oedd yn gweithio, a chlymu ei hun i waelod fan dosbarthu bwyd.

Roedd yn y carchar yn disgwyl achos llys wedi ei gyhuddo o droseddau yn ymwneud â therfysgaeth. Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau ddydd Gwener eu bod nhw’n chwilio am y cyn-filwr ym myddin Prydain yn Richmond yn ne-orllewin Llundain, sydd ddim yn bell o’r carchar.

Maen nhw hefyd yn ymchwilio i’r posibilrwydd fod y carcharor wedi cael cymorth o’r tu fewn i garchar Wandsworth i ddianc.

Dywedodd pennaeth Scotland Yard, Syr Mark Rowley fod y ddihangfa “yn amlwg wedi’i gynllunio ymlaen llaw”.

‘Help’

Ddydd Gwener, ychwanegodd y Comisiynydd Rowley, fod y sefyllfa yn un “bryderus iawn”.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yr heddlu’n ymchwilio i weld a oedd wedi derbyn “cymorth mewnol”, dywedodd: “Mae’n gwestiwn. A wnaeth unrhyw un yn y carchar ei helpu? Carcharorion eraill, staff gwarchod?

“A gafodd ei helpu gan bobl y tu allan i’r waliau neu ai ei waith ef ei hun oedd hyn i gyd?”

Roedd prosesau diogelwch wedi eu tynhau mewn porthladdoedd a meysydd awyr a oedd yn ei dro wedi arwain at oedi i deithwyr, cyn iddo gael ei ddal.

Ddydd Gwener, gwrthododd yr Ysgrifennydd Tramor, James Cleverly, wneud sylw ynghylch a oedd yn hyderus y byddai Khalife yn cael ei ddarganfod.

“Mae gennym ni wasanaethau diogelwch a gwasanaethau heddlu gwych,” meddai.

“Dydw i ddim yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol nac yn gredadwy i mi fod yn dyfalu. 

“Y peth pwysig yw ein bod ni’n gadael i’r heddlu, yr ymchwilwyr, wneud eu gwaith,” meddai wrth raglen Good Morning Britain ar ITV.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.