Y dynwaredwr a’r digrifwr Mike Yarwood wedi marw yn 82 oed
Mae’r dynwaredwr a’r digrifwr Mike Yarwood wedi marw yn 82 oed.
Fe ddaeth i enwogrwydd mewn rhaglenni teledu yn y 1970au ar y BBC.
Roedd ei raglenni yn denu cynulleidfaoedd o 20 miliwn yn gyson.
Dywedodd yr elusen The Royal Variety ei fod "yn gadael bwlch anfesuradwy yn y diwydiant adloniant ar ei ôl.
"Fe ddaeth ei dalent i ddynwared pobl â gwenau i wynebau miliynau o bobl."
'Chwerthin'
Roedd yn enwog am ddynwared y cyn prif weinidogion Harold Wilson a Ted Heath yn ogystal â Thywysog Charles ar y pryd.
Dywedodd y personoliaeth teledu a chyn golygydd papur newyddion Piers Morgan ar y cyfryngau cymdeithasol: “Roedd yn seren enfawr pan o’n i’n tyfu i fyny ac roedd yn ddynwaredwr a digrifwr dawnus.
"Cwsg mewn hedd Mike a diolch am y chwerthin.”