Newyddion S4C

Diwrnod Atal Hunanladdiad: ‘Ma’ cymaint o bobl eraill mas yna yn stryglo’

10/09/2023

Diwrnod Atal Hunanladdiad: ‘Ma’ cymaint o bobl eraill mas yna yn stryglo’

'Mae dal yn rhan o dy orffennol di - dyw e ddim yn rhywbeth sy’ just yn mynd i ffwrdd.’

Mae Iestyn Gwyn Jones, 19 oed, o Gaerdydd wedi bod yn dioddef gyda’i iechyd meddwl ers sawl blwyddyn ac wedi ceisio ei ladd ei hun.

A hithau’n ddiwrnod atal hunanladdiad, mae’n galw am fwy o drafodaeth agored am salwch meddwl.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd y cerddor mai'r ffordd i “helpu eich hunain a phobl eraill” yw i “siarad”.

“Ma’ siarad, dyw e ddim yn cure. Ond ma’ fe yn helpu,” meddai.

“Mae clywed o rywun arall, yn cymryd tyme bach o’r baich efallai. Ti ddim yn teimlo gymaint o bwysau.”

Esboniodd bod ei iechyd meddwl wedi dechrau dioddef pan oedd yn 10 oed.

Ond i ddechrau roedd yn meddwl bod y meddyliau yn “normal”.

“O’n i’n meddwl, ma’ pawb yn teimlo fel hyn, ond wedyn ddim yn sylwi actually dylen ni fod lot yn hapusach,” meddai.

“Dyw bywyd ddim fod faint yma o strygl bob dydd."

Cuddio

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae cyfradd hunanladdiadau Cymru ar gynnydd. 

Yn 2021, bu 12.7 o achosion o hunanladdiad i bob 100,000 o’r boblogaeth. Roedd hynny’n gynnydd o’r gyfradd yn 2020, sef 10.3 i bob 100,000.

Ond mae modd i salwch iechyd meddwl gael “ei golli mor hawdd” meddai Iestyn oherwydd bod pobl “mor dda yn cuddio fe”.

“Dyna beth sy’n ofni fi am y peth,” meddai. “Ma’ cymaint o bobl eraill mas yna yn strgylo.

“Siŵr o fod ma’ nhw’n ymddangos y bobl hapusaf yn y byd, neu ma’ nhw’n ymddangos i neud yn rili dda mewn bywyd.

“Fi’n cofio cal sgwrs gyda rhywun rwy’n gweithio gyda, a dweud wrtho fe am y tro cynta’, ie fi di trial lladd fy hunain yn y gorffennol a dyma fe’n mynd - ti yw’r person ola’ sa fi ‘di disgwyl i weud ‘na.

“Mae’n dangos pa mor hawdd yw cuddio fe.

"Ti gallu bod ar dy waethaf eisiau gorffen pethau a ti’n teimlo, OK s’dim dianc nawr o’r foment 'na. Ond ma’ hwnna dal mynd i haunto ti.

"O'n i allan yn Gaerdydd a’n trio cerdded adre ac o’n i’n stryglo croesi’r heol. Ma’ fe pethe fel ‘na yn cael effaith. Rhyw fath o trust yn dy hunan. Ti’n dod i ofni dy hunain."

Image
iestyn gwyn jones

Perfformio

Mae Iestyn yn gystadleuwr brwd yn Eisteddfodau'r Urdd. Roedd hefyd ganddo rôl flaenllaw ym mherfformiad Theatr Ieuenctid yr Urdd o Deffro’r Gwanwyn.

Ond wrth ddioddef o salwch meddwl, mae ei berthynas gyda pherfformio wedi bod yn un “anodd”.

Mae perfformio a fy iechyd meddwl i wastad wedi bod yn berthynas eitha’ anodd,” meddai.

“Fi’n cofio yn ystod Steddfod yr Urdd Caerdydd o ni’n neud rhyw pedair sioe, yn cystadlu trwy’r wythnos.

“Ac ar y dydd Sadwrn ola’, jyst torri lawr. Yn teimlo fel bod fi methu copo rhagor os unrhywbeth.

“A ma’ pawb arall siŵr o fod yn edrych mewn a mynd ‘o ma’r boi ma’ yn neud yn dda’.

“Ond wedyn ‘swn i’n mynd o ‘na i ‘isie lladd fy hunain.

“Ti ddim yn gweld hwnna o gwbl, ma hwnna yn cael ei guddio.”

Therapi

Dechreuodd Iestyn dderbyn therapi trwy'r Saesneg, ond gwelodd wahaniaeth mawr pan newidiodd i therapi trwy'r Gymraeg.

“A neud yn y Saesneg bod y therapi ddim yn cael y gorau allan o fi, neu o’n i ddim yn rhoi digon neu bod fi ddim yn rhoi cymaint ag y gallai, achos bod fi’n neud e’n Saesneg,” meddai.

“Yn hwyrach ymlaen ges i therapi Cymraeg ac wedyn therapi Cerdd. A o’dd hwnnan help mawr.”

Mae cerddoriaeth wedi bod yn ffordd i Iestyn leddfu ei broblemau iechyd meddwl.

“Cerddoriaeth wastod wedi bod yn rhywbeth rwy’n troi ato i sgwennu i gal meddyliau allan,” meddai.

“Mae’n arf gwerthfawr iawn i mi.

“Mae’n gartrefol. Yn ffordd o gysylltu gyda fy hunain.”

Dal ddim yn deall

Hyd yn oed o wella ni fydd effaith salwch iechyd meddwl byth yn eich gadael chi, yn ôl Iestyn. 

“Fi dal ddim yn deall hyd hyn i fod yn onest a sai’n meddwl byddai byth yn,” meddai.

“Ar ddiwedd y dydd, ti’n gweithio gyda fe, dod i ddeall e, dysgu mwy amdano fe.

“A dyna pam ma fe mor bwysig bod pobl yn siarad a bod pobl yn cael ei addysgu am y peth achos heblaw am 'ni ma pethau yn gallu mynd yn drech ar bobl.

“Ma bob dydd dal yn strygl ond fi wastod yn dweud wrth fy hunain - cymryd bob dydd fel mae’n dod ac os na, bob awr, bob munud, bob eiliad.

“Ma siarad yn ca'l cymaint o effaith cyn dechrau rili."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan S4C.​

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.