
‘Cyfnod tyngedfennol’: Gobeithion a phryderon rygbi yng Nghymru ar ddechrau Cwpan y Byd
‘Cyfnod tyngedfennol’: Gobeithion a phryderon rygbi yng Nghymru ar ddechrau Cwpan y Byd
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai heriol i rygbi yng Nghymru.
Mae’r gamp wedi gweld honiadau o rywiaeth, casineb at ferched, hiliaeth o fewn yr undeb, chwaraewyr yn bygwth streicio yn sgil anghydfod dros gytundebau, a phryderon parhaus ynglŷn ag anafiadau i’r pen.
Mae Cwpan Rygbi’r Byd yn cynnig cyfle i droi dalen newydd - ond mae rhai dal yn pryderu am ddyfodol y gêm.
Yng nghaeau Pontcanna yn y brifddinas, mae Clwb Cymry Rygbi Cymry Caerdydd yn chwarae St Joseph’s.
Ac o safbwynt ei chwaraewyr, mae pethau yn argoeli’n dda yn ôl Cadeirydd y clwb, Eurof James.
“Ar ddechrau’r tymor dwi’n gwenu, mae’n sefyllfa ni’n gryf iawn, ein sefyllfa ni’n iach iawn,” meddai.
“Mae ryw 60 gyda ni o ran y dynion, 30 o ferched gyda ni ar hyn o bryd a 300 yn yr adran iau.
“Y sefyllfa yn anffodus yw - weithiau mae gyda ti chwaraewyr ond nid yn y safle cywir.
“Er enghraifft heddiw does dim rheng flaen gyda ni, felly ‘da ni wedi gorfod addasu’n chwarae, addasu’r tîm ac yn y blaen, felly mae hynny yn anodd iawn.
“Ac wrth gwrs, gyda Chwpan y Byd o’n blaenau ni bellach, mae nifer o’r bechgyn yn mynd i ddiflannu i Bordeaux wythnos nesaf, felly rydyn ni’n mynd i fod yn crafu’n pennau go iawn i sicrhau bod gyda ni garfan lawn.”

‘Hunan-dwyll’
Ond mae rhai yn fwy petrusgar ynglŷn â dyfodol y gêm, gan gynnwys Ron Jones, sy’n gweithio fel Cyfarwyddwr i’r Scarlets.
“Dwi’n meddwl bod e yn gyfnod tyngedfennol ym modolaeth rygbi i ddweud y gwir ar lefel economaidd a fi’n credu cymdeithasol,” meddai.
“Mae rygbi ar draws y byd mewn trafferth ac os nad ydyn ni’n datrys y problemau ‘na fydd na ddim dyfodol.
“Mae Cwpan y byd yn un o’r cystadlaethau sy’n dod ag arian i mewn i’r gêm ond, mewn ffordd, ryw elfen o hunan-dwyll yw hynny.
“Ni ‘di gweld fel ma’ pêl-droed yn defnyddio Qatar fel ffordd o ddod ag arian i mewn, ond dyw hynny ddim yn llesol i’r gêm yn y pendraw.
“Ar hyn o bryd mae pob gwlad sy’n ware rygbi ar lefel broffesiynol yn dioddef yn ariannol a ni’n gweld yr effaith tymor hir mae'r canolbwyntio ar y gêm ryngwladol yn hytrach na rygbi fel gêm i gymuned, ac yn arbennig i blant a phobl ifanc, mae hwnna yn mynd i fod yn broblem.”
‘Newid’
Er pryderon rhai mae ystadegau diweddar gan World Rugby yn awgrymu bod dros 8 miliwn o bobl bellach yn chwarae ar draws y byd, cynnydd o 11% ers y llynedd
Mae’r cynnydd hwnnw i’w weld fwyaf ymhlith gwledydd sy’n newydd i’r gamp ac ymhlith merched.
Yn ogystal, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyflwyno cyfres o newidiadau yn ddiweddar er mwyn creu dilyniant i chwaraewyr rhwng 14 a 23 oed.
Fydd Tarian Dewar, un o’r cystadlaethau mwyaf i fechgyn ifanc, yn newid o fod o dan 15 oed i 16, mae bwriad ehangu cynghrair yr ysgolion a cholegau, ac mae newidiadau hefyd i reolau taclo mewn ymgais i wneud y gêm yn fwy diogel.
“Ni ‘di gweithio ar hyn ers dros ddwy flynedd i edrych ar beth yw’r rhaglen gorau i ddatblygu chwaraewyr, i helpu chwaraewyr i aros yn y gêm i ddechrau,” meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru.
“Chwarae’r gêm gymunedol ond helpu hefyd gael chwaraewyr mynd trwy i chwarae i Gymru.
“Ni ‘di siarad gyda gwledydd dros y byd i gyd ac mae pob un yn gwybod bod gem y dynion wedi newid, ni’n gwybod bod gem y merched yn tyfu, mae lot mwy o chwaraewyr yn dechrau dod mewn i’r gêm, ond gem y dynion maen nhw’n dechrau meddwl ydyn nhw i gyd moyn ware’r gêm.
“Mae’r meddwl wedi newid, so mae rhaid i ni newid fel undeb.”