250 o blant ysgol Ffrainc yn paratoi i ganu Hen Wlad fy Nhadau cyn y gêm yn erbyn Ffiji
250 o blant ysgol Ffrainc yn paratoi i ganu Hen Wlad fy Nhadau cyn y gêm yn erbyn Ffiji
"Rydyn ni'n ymwybodol o'r ddyletswydd sydd arnom ni er mwyn sicrhau fod pobl Cymru yn cael eu cynrychioli nos Sul."
Bydd 250 o blant a phobl ifanc Ffrainc yn canu Hen Wlad fy Nhadau yn y Stade de Bordeaux cyn gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Ffiji nos Sul.
Mae'r Mêlée des Chœurs, neu'r Sgrym Gorawl, yn brosiect a fydd yn galluogi i 7,000 o blant yn Ffrainc gael y profiad bythgofiadwy o ganu anthemau cenedlaethol yr holl genhedloedd sy'n cymryd rhan cyn y 48 gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc eleni.
Yn ystod y flwyddyn ysgol 2022/23, fe wnaeth y disgyblion hyn, o flwyddyn pump i'r ysgol uwchradd, ddysgu i ganu anthem un o'r 20 o wledydd sydd yn rhan o'r gystadleuaeth yn Ffrainc.
Bydd 26 o gorau a fydd yn cynnwys tua 250 o ddisgyblion yr un yn perfformio cyn gemau'r gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal rhwng 8 Medi a 28 Hydref.
Pwy fydd yn canu Hen Wlad fy Nhadau?
Pedair ysgol o ardal Agen, sydd tua 87 milltir i ffwrdd o Bordeaux, a fydd yn canu Hen Wlad fy Nhadau cyn y gêm fawr yn erbyn Ffiji yn y Stade de Bordeaux nos Sul, sef ysgolion cynradd Paul Bert a Sembel, ysgol uwchradd Ducos du Hauron a choleg Chweched Dosbarth Bernard Palissy.
Fe aeth Newyddion S4C draw i ysgol uwchradd Ducos du Hauron er mwyn holi'r disgyblion a'r athrawon am y profiad unigryw o ddysgu anthem Cymru a'u cyffro o'i pherfformio cyn y gêm dyngedfennol nos Sul.
Wrth siarad am Hen Wlad fy Nhadau, dywedodd Waël, sydd yn 12 oed, fod y "gerddoriaeth yn hyfryd ac mae'r anthem yn wreiddiol iawn".
"Roedd yn eithaf anodd ei dysgu, ond gan fod gennym ni'r athrawes orau, fe wnaeth hynny pethau'n haws!"
Mae Aimen, sydd hefyd yn 12 oed, wedi cael budd o ddysgu am Hen Wlad fy Nhadau a Chymru, ac yn edrych ymlaen at ddysgu mwy.
"Mae yna alaw hardd i'r anthem, ac mae o wedi ein newid ni achos fel arfer rydym ni'n canu caneuon Saesneg neu Ffrangeg," meddai.
"Doeddwn i ddim yn gwybod llawer cynt, ond wrth ddysgu'r anthem, roeddwn i eisiau dysgu mwy."
'Diwylliant gwahanol'
Dywedodd Waël ei bod hi'n bwysig i'r disgyblion fod yn ymwybodol fod Cymru yn wahanol i Loegr.
"Mae yna ddiwylliant gwahanol, dydi o ddim yr un peth," meddai.
Ychwanegodd Aimen: "Mae gan bob gwlad ei diwylliant, a dylai pob gwlad fod yn annibynnol a rhydd."
Bydd Ryan, 12, hefyd yn cael y profiad bythgofiadwy o ganu'r anthemau yn Bordeaux nos Sul, ond mae'n gwell ganddo Hen Wlad fy Nhadau nag anthem Ffiji.
"Mae'n well na chanu yn Saesneg, ac mae'n wreiddiol."
Yn ôl Cléo, 12, mae hi'n cael mwynhad nid yn unig o ganu'r anthem ond o wrando arni hefyd.
"Dwi wrth fy modd â'r anthem yma oherwydd mae yna alaw hyfryd iddi. Dwi'n hoffi gwrando arni, ei chanu hi, dwi'n hoffi bob dim amdani," meddai.
Ychwanegodd Camélia, 12 oed: "Mae'r geiriau yn hyfryd ac mae'n bleser gen i ei chanu."
'Darganfod y wlad'
Madame Cathy Judit sydd wedi bod yn hyfforddi'r disgyblion, ac mae wedi bod yn brofiad diddorol iddi hi hefyd wrth ddysgu'r anthem.
"Roedd o'n eithaf cymhleth. Fe gawsom ni hyfforddiant efo Cymro a wnaeth wneud i ni ynganu'r geiriau ac i ddod i arfer. Mae'r plant fel sbyngau," meddai.
"Mae hi'n anthem hyfryd a phwerus, dydy'r tempo ddim yn gyflym iawn ac mae yna harmonïau hardd iawn hefyd.
"Er enghraifft, pan rydym ni'n dweud 'chantorion', doedd o ddim yn hawdd, dydyn ni byth yn dweud hyn yn yr iaith Ffrangeg felly roedd rhaid i ni ddod i arfer efo hyn yn amlwg.
"Da ni'n gyffrous iawn, da ni wedi gweithio'n galed ar hyd y flwyddyn ysgol ddiwethaf a rŵan, rydym ni'n gallu mwynhau'r profiad hanesyddol yma yn Ffrainc."
'Cyfrifoldeb'
Mae gan y côr y cyfrifoldeb o gynrychioli Cymru yn ôl Monsieur Arnaud Darrigrand, sydd hefyd yn athro Cerddoriaeth yn yr ysgol ac sydd wedi helpu i hyfforddi'r plant.
"Yr her fawr oedd deall y geiriau gan ein bod yn ymwybodol o'r ddyletswydd sydd arnom ni er mwyn sicrhau fod pobl Cymru yn cael eu cynrychioli yn y ffordd orau bosib drwy'r anthem sy'n cael ei chanu gan y disgyblion,” meddai.
Ychwanegodd Madame Judit fod y plant wedi cael y cyfle nid yn unig i ddysgu am yr anthem, ond am Gymru hefyd.
"Mae'n bwysig iawn fod gan bob gwlad ei hanthem ei hun - mae hynny yn bwysig iawn," meddai.
"Mae symbolau'r wlad, y cestyll hyfryd sydd gennych chi hefyd, ac wrth gwrs yr ŵyl gerddoriaeth a barddoniaeth sef y fwyaf yn Ewrop - dwi ddim am geisio ei hynganu neu fe fydda i mewn trafferth!
"Ond y pwrpas hefyd oedd gwneud iddyn nhw (y disgyblion) ddarganfod yr anthem, ond hefyd drwy'r gwaith yma, i ddarganfod y wlad."