Newyddion S4C

Posibilrwydd bod y carcharor Daniel Abed Khalife 'wedi cael help i ddianc'

08/09/2023
Daniel khalife

Mae’r heddlu yn ymchwilio i’r posibilrwydd fod y carcharor Daniel Abed Khalife wedi cael cymorth o fewn carchar Wandsworth i ddianc.

Dywedodd pennaeth Scotland Yard, Syr Mark Rowley fod y digwyddiad “wedi’i gynllunio ymlaen llaw yn amlwg.”

Cadarnhaodd y llu hefyd eu bod yn chwilio am arwyddion o Khalife, cyn filwr Prydeinig, ym Richmond, yn ne-orllewin Llundain, sydd ddim yn bell o’r carchar.

Ddydd Gwener, dywedodd Comisiynydd Heddlu’r Met, Rowley, fod y sefyllfa yn un “bryderus iawn”.

Credir bod Khalife, 21, wedi gadael y carchar drwy’r gegin yn HMP Wandsworth, lle'r oedd yn gweithio, a clymu ei hun i waelod fan dosbarthu bwyd.

Mae helfa yn cael ei chynnal i geisio dod o hyd iddo, gyda diogelwch wedi ei gynyddu mewn porthladdoedd a meysydd awyr sydd wedi arwain at oedi i deithwyr.

Dyw Khalife heb gael ei weld hyd yn hyn.

Dywedodd Mr Rowley wrth radio LBC: “Mae’n amlwg ei fod wedi’i gynllunio ymlaen llaw, y ffaith y gallai strapio ei hun ar waelod y fan.”

Pan ofynnwyd iddo a oedd yr heddlu’n ymchwilio i weld a oedd wedi derbyn “cymorth mewnol”, dywedodd: “Mae’n gwestiwn. A wnaeth unrhyw un yn y carchar ei helpu? Carcharorion eraill, staff gwarchod? A gafodd ei helpu gan bobl y tu allan i’r waliau neu ai ei greadigaeth ef ei hun oedd hyn i gyd?”

Ddydd Gwener, gwrthododd yr Ysgrifennydd Tramor, James Cleverly, wneud sylw ynghylch a oedd yn hyderus y byddai Khalife yn cael ei ddarganfod.

“Mae gennym ni wasanaethau diogelwch a gwasanaethau heddlu gwych. Dydw i ddim yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol nac yn gredadwy i mi ddyfalu.

“Y peth pwysig yw ein bod ni’n gadael i’r heddlu, yr ymchwilwyr, wneud eu gwaith,” meddai wrth raglen Good Morning Britain ar ITV.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.