Cynllun fferm wynt gyntaf Cymru i arnofio ar y môr yn methu sicrhau cytundeb gyda Llywodraeth y DU
Mae cynllun ar gyfer fferm wynt gyntaf Cymru i arnofio ar y môr wedi methu a sicrhau cytundeb gyda Llywodraeth y DU mewn arwerthiant cynlluniau ynni blynyddol.
Dywedodd y cwmni nad oedd yn gallu parhau gyda'r cais gan nad oedd pris yr ynni oedd yn cael ei gynnig gan y Llywodraeth yn ddigonol.
Byddai cynllun Erebus oddi ar arfordir Penfro wedi cynhyrchu 96MW o drydan i bweru bron i 90,000 o gartrefi petai wedi derbyn sêl bendith gweinidogion yn San Steffan.
Roedd Erebus yn rhan o gam cyntaf datblygiad ynni adnewyddadwy pedwar gigawat yn y Môr Celtaidd – digon i ddarparu pŵer ar gyfer pedair miliwn o gartrefi.
Blue Gem Wind, menter ar y cyd rhwng TotalEnergies a'r Simply Blue Group, sydd tu ôl i'r fenter i weithredu'r prosiect 100MW Erebus erbyn 2026.
Fe dderbyniodd y cynllun ganiatâd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth eleni, ond bellach mae dyfodol y cynllun yn y fantol gyda'r cwmni'n rhagweld oedi.
Cytundebau
Fe wnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau ddydd Gwener, er bod prosiectau solar a gwynt ar y tir wedi ennill cefnogaeth yn yr arwerthiant blynyddol (CfD), ni lwyddodd ynni gwynt ar y môr, prif ffocws ynni adnewyddadwy’r DU, ennill yr un contract.
Mae Ben Lake, AS Plaid Cymru dros Geredigion, wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o osgoi gweithredu ar newid hinsawdd yn dilyn methiant Erebus i sicrhau cytundeb.
Ategodd Ben Lake alwadau gan RenewableUK Cymru ar Lywodraeth y DU i ddiwygio fframwaith arwerthiant CfD.
Dywedodd Mr Lake: “Mae’r newyddion heddiw yn siomedig tu hwnt. Prosiect Erebus yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, a byddai wedi paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiadau ynni gwynt arnofiol pellach, helpu i ostwng biliau ynni, a gwneud cyfraniad pwysig i economi de-orllewin Cymru.
“Er gwaethaf rhybuddion dro ar ôl tro gan y diwydiant, methodd Llywodraeth y DU â chynnwys costau cynyddol yn y broses arwerthiant, gan wneud y prosiect blaenllaw hwn yn llai cystadleuol.
“Yn anffodus mae Llywodraeth y DU nid yn unig yn rhoi ein hymdrechion hinsawdd gam yn ôl ond hefyd yn methu â sicrhau cyfle amhrisiadwy a allai roi hwb i economi de-orllewin Cymru.
"Er mwyn osgoi rhagor o siomedigaethau yn y dyfodol, rhaid i Lywodraeth y DU ddiwygio ei fframwaith Contract Gwahaniaeth ar fyrder fel y gall prosiectau adnewyddadwy Cymru gystadlu am fuddsoddiad preifat sydd ei angen yn ddirfawr.”
Amddiffyn cynlluniau'r Llywodraeth
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor James Cleverly amddiffyn cynlluniau’r DU, wedi ofnau nad oes unrhyw gwmnïau ynni mewn gwirionedd wedi cyflwyno ceisiadau i’r Llywodraeth yn yr arwerthiant allweddol.
Dywedodd Mr Cleverly wrth GB News na allai wneud sylw ar broses fasnachol.
Ond pwysleisiodd fod y DU yn “arweinydd byd” ar wynt ar y môr.
“Er na allaf wneud sylw am fanylion y broses hon am resymau masnachol amlwg, mae’r DU wedi dangos y gallwch dorri allyriadau, tyfu’r economi, ac ysgogi technoleg.
“Mae’n stori lwyddiant dda iawn ac yn un y dylem fod yn falch ohoni.”
Llun: Principle Power