Adeiladu’r freuddwyd: Cyfres yn dilyn taith cwpwl wrth adnewyddu parc carafanau
Mae gŵr a gwraig wedi gwerthu eu cartref yn Llanelli i brynu ac adnewyddu hen barc carafanau yn y gobaith o adeiladu cartref eu breuddwydion, a bod y ddi-forgais erbyn eu bod yn 35 oed.
Yn y gyfres ddigidol newydd ar YouTube S4C, ‘Adeiladu’r Freuddwyd: Camp Out West’, mae Emilie Lovaine James a’i gŵr Jon James yn trafod eu cynllun uchelgeisiol.
“Dwi’n credu mae bod yn ddi-forgais a byw o fewn ein gallu wedi bod yn flaenoriaeth i ni erioed, yn enwedig oherwydd y cyfnod clo, pryd stopiodd ein gwaith i gyd. Ry’n ni’n hawdd i’w plesio, a does dim angen lot arnom ni i fod yn hapus,” meddai Emilie.
Mae’r pâr yn byw mewn carafán wnaethon nhw ei phrynu am £1500 , a hynny ar ôl gwerthu eu cartref a phrynu tir am £90,000.
O ddydd i ddydd, mae Emilie a Jon yn ffotograffwyr priodas a fideograffwyr, ac hefyd yn rhedeg nifer o fusnesau i helpu ariannu’r prosiect.
Eu cynllun yw gwneud cymaint o waith ar y cae eu hun er mwyn arbed arian. Fe wnaethon nhw ddweud eu bod nhw wedi gwario eu cynilion bywyd i dalu am y tir, gan adael dim ond £500 yn y banc.
“Mae’n ddoniol oherwydd ry’n ni’n byw mewn carafán, a dyma’r lleiaf o arian ry’n ni erioed wedi cael, ond ry’n ni mor hapus ag erioed” meddai Emilie.
“Ry’n ni wedi sylwi eich bod chi’n gallu dyheu am bethau pan ry’ch chi’n ifanc, ond yn sylwi nawr efallai nad dyna sy’n iawn i chi... ry’n ni’n byw’r freuddwyd”.
Yn wreiddiol, roedd y tir yn faes carafanau i’r glowyr oedd yn gweithio yn y lofa gerllaw. Daeth nifer o’r gweithwyr o’r Almaen i weithio yn y 1950au. Ar ôl idd i'r lofa gau yn 1989, roedd y tir wedi ei adael ac wedi tyfu’n wyllt.
“Roeddwn yn chwilio am ddarn o dir i’w brynu. Fe aethon ni ar bob math o wefannau, Facebook, yn ceisio dod o hyd i rywle. Fellly pan ddaeth hyn i fyny, do’n i ddim yn gallu credu’r peth, oherwydd dwi’n cofio’r lle yma yn tyfu lan gan fod Mamgu a Tadcu yn byw lawr y ffordd,” meddai Jon.
Dywedodd Emilie: “Ro’n i wedi gyrru heibio sawl gwaith a dim ond wedi gweld un rhan oedd yn edrych fel ffilm arswyd, ac roedd Jon yn erbyn y syniad i ddechrau. Felly, roedd yn rhaid ei berswadio i ddod i weld y maes”.
Dywedodd Emilie: “Fi’n credu y peth mwyaf annisgwyl oedd o’n plaid ni oedd dogfennu popeth ro’n ni’n gwneud.
“Ro’n ni wedi synnu sawl person oedd gyda diddordeb ynom ni oherwydd… ry’n ni jyst yn byw mewn carafán ynghanol cae, a dyna’i gyd ry’n ni wedi’i neud dros y flwyddyn yw symud sbwriel, dy’n ni ddim wir wedi gwneud llawer o waith eto. Mae’r pethau cyffrous i gyd dal i ddod.”
Nod y cwpl yw adeiladu cartref, dau gaban, a maes ‘glampio’ fel bod ymwelwyr yn gallu aros yno rhyw ddydd.
“Gan fod fy nheulu o Gwm Gwendraeth, mae’n hyfryd dod yn ôl yma i ddangos prydferthwch yr ardal - rhan fach o Gyrmu dy’ch chi ddim yn ei gweld fel arfer. Mae cymaint o hanes yma ac ry’n ni mo’yn hynny i chwarae rhan yn beth ry’n ni’n ei wneud” meddai Jon.
Mae’r gyfres ar gael i’w gwylio ar gyfrif YouTube S4C, gydag un bennod yn cael ei rhyddhau bob mis tan fis Rhagfyr.
Yna, bydd hyn yn cael ei dilyn gan gyfres tair rhan yng ngwanwyn 2024.