Newyddion S4C

Cofnodi diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yma yn y DU

07/09/2023
Tymheredd uchel

Mae’r DU wedi profi diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yma yn sgil tymereddau uchel ddydd Iau, meddai’r Swyddfa Dywydd. 

Cafodd tymheredd o 32.6C ei gofnodi yn Wisley, Surrey.

Mae disgwyl i’r tymereddau uchel barhau yn ystod yr wythnos, gyda darogan y bydd dydd Sadwrn yn cael ei gofnodi fel y diwrnod poethaf eleni. 

Mae sawl ardal ledled y DU wedi profi tymereddau uwchben 30C yr wythnos hon. 

Mae rhannau helaeth o Gymru wedi profi cyfnod eithafol o wres yn ystod y cyfnod yma. 

Dywedodd Stephen Dixon o’r Swyddfa Dywydd ei fod yn “anghyffredin” ond nid “amhosib” cofnodi diwrnod poethaf y flwyddyn yn ystod mis Medi.

35.6C yw’r tymheredd dyddiol poethaf ar gofnod ym mis Medi, a hynny yn 1906. 

Ond fe ychwanegodd Mr Dixon bod hyd y cyfnod o wres eithafol yn “hynod o anarferol” yr adeg yma o’r flwyddyn.

'Tymheredd llawer uwch’

Dywedodd Prif Feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Steven Ramsdale: “Bydd gwasgedd uchel yn ne-ddwyrain y DU yn golygu cyfnod mwy sefydlog ond tymereddau llawer uwch na'r disgwyl yr adeg yma o'r flwyddyn. 

“Mai disgwyl y tymereddau uchaf yn y de, ond mae ton boeth eisoes wedi’i phrofi mewn mannau o Gymru a Lloegr. 

“Bydd disgwyl i rai llefydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd brofi tymereddau anarferol o uchel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.