Jac Morgan i arwain Cymru wrth i Gatland gyhoeddi ei dîm yn erbyn Ffiji
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi ei dîm ar gyfer gêm gyntaf Cymru yng Ngwpan Rygbi’r Byd.
Mi fydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth yn erbyn Ffiji ddydd Sul 10 Medi.
Mae’r 15 fydd yn dechrau’r gêm yn erbyn Ffiji yn cynnwys pum chwaraewr fydd yn ymddangos yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf.
Yr un sy'n wir am bump o’r eilyddion hefyd.
Jac Morgan sy'n chwarae yn safle'r blaenasgellwr fydd yn arwain y tîm, ac fe fydd Aaron Wainwright a Taulupe Faletau yn ymuno gyda’u capten yn y rheng ôl.
Dyma fydd cap rhif 101 i Faletau, ac yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers iddo wynebu Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bydd George North yn chwarae ei 17eg gêm yng Nghwpan y Byd ddydd Sul – a hynny yn ei bedwaredd Pencampwriaeth. Nick Tomkins fydd ei bartner yng nghanol cae.
Gareth Davies sydd wedi ei ddewis yn fewnwr gyda Dan Biggar yn safle’r maswr. Dyma fydd y drydedd gystadleuaeth ar gyfer Cwpan y Byd i’r ddau ohonynt gymryd rhan ynddi.
Mae Davies wedi chwarae yn 12 gêm ddiwethaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2015 a 2019, tra bo Biggar o fewn triphwynt i gyrraedd 100 o bwyntiau yn y gystadleuaeth.
Ddydd Sul fydd wythfed gêm y cefnwr, Liam Williams yng Nghwpan y Byd a Louis Rees-Zammit a Josh Adams fydd yn cwblhau’r tri ôl. Adams oedd prif sgoriwr ceisiau Cwpan y Byd yn Japan yn 2019 ac fe hawliodd dri o’i saith cais yn y gystadleuaeth honno yn erbyn Ffiji.
Gareth Thomas sydd wedi ei ddewis yn brop pen tynn gyda’r bachwr Ryan Elias a Tomas Francis yn cwblhau’r rheng flaen. Yr ornest yn erbyn Ffiji fydd 11eg ymddangosiad Francis yng Nghwpan y Byd hyd yma.
Will Rowlands ac Adam Beard fydd y ddau glo.
Ymhlith yr eilyddion, Tomos Williams, Sam Costellow a Rio Dyer fydd yn cynnig yr opsiynau ar gyfer yr olwyr
Elliot Dee, Corey Domachowski a Dillon Lewis fydd eilyddion y rheng flaen a chwaraewr ieuengaf y garfan, Dafydd Jenkins a Tommy Reffell fydd yn cynnig yr opsiynau eraill ar gyfer y blaenwyr.
'Gweithio'n galed'
Dywedodd Gatland: "Mae’r garfan wedi gweithio’n hynod o galed dros y misoedd diwethaf wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth hon.
" Mae’r paratoadau penodol ar gyfer gêm Ffiji wedi bod yn arbennig yn ystod y pythefnos diwethaf. Maen nhw’n amlwg yn dîm da gydag athletwyr unigol gwych ac mae’n bwysig cydnabod bod llawer iawn mwy o strwythur i’w chwarae bellach.
“Ry’n ni’n gwybod yn iawn beth sydd angen i ni ei wneud a’r dull chwarae sydd angen i ni ei fabwysiadu ar gyfer gornest sy’n addo i fod yn gyffrous ddydd Sul. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at y gêm a’r achlysur.
“Mae’r bechgyn yn edrych yn dda ac yn barod ar gyfer yr her. Mae awyrgylch arbennig yn y garfan gyda’r chwaraewyr yn gweithio’n galed dros ei gilydd – ac yn mwynhau cwmni ei gilydd hefyd. Mae pawb yn ysu i ddechrau ein hymgyrch yng Nghwpan y Bydd 2023 ddydd Sul.”
Eglurodd Gatland hefyd pam nad yw’r cyd-gapten Dewi Lake wedi ei gynnwys yn y garfan ar gyfer yr ornest agoriadol: “Mae’r tîm meddygol wedi gwenud gwaith arbennig er mwyn cael Dewi’n ôl yn holliach – ond gan nad yw e wedi ymarfer gymaint â Ryan Elias ac Elliot Dee – ‘rwyf wedi penderfynu eu dewis nhw y tro hwn.”
Bydd gêm Cymru yn erbyn Ffiji i’w weld yn fyw ar S4C.