Sian Eleri: 'Cael bod yn un o feirniaid Gwobr Mercury eleni yn fraint'
Mae’r gyflwynwraig BBC Radio 1, Sian Eleri wedi dweud bod hi’n fraint cael bod yn un o feirniaid Gwobr Mercury eleni.
Mae’r wobr yn dathlu cerddoriaeth o Brydain ac mae 12 albwm wedi cyrraedd y rhestr fer.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyflwyno yn fyw ar BBC Four a 6 Music am 22:00 mewn seremoni yn Llundain nos Iau.
Wrth siarad ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru fore Iau dywedodd y gyflwynwraig nad oedd hi’n gallu coelio’r cynnig o fod yn feirniad.
“Ferdai'm coelio pan ges i yr e-mail. Ma’n un o’r pethau ‘na lle ti’n dychmygu ella cael neud ffasiwn beth fel teenager,” meddai.
“Dwi’n cofio sbïo drwy restrau blynyddoedd yn nôl a mynd ‘w s'gwn ni pwy sy’n mynd i ennill, a neud predictions bach fy hun, dwi wedi bod wrth fy modd efo cerddoriaeth ers erioed.
“Felly mae hwn gymaint o fraint, lle ma barn fi’n actually meddwl rhywbeth."
Y 12 olaf:
- Arctic Monkeys - The Car
- Ezra Collective - Where I’m Meant to Be
- Fred again... - Actual Life 3 (January 1 - September 9, 2022)
- Jessie Ware - That! Feels Good!
- J Hus - Beautiful And Brutal Yard
- Jockstrap - I Love You Jennifer B
- Lankum - False Lankum
- Loyle Carner - hugo
- Olivia Dean - Messy
- RAYE - My 21st Century Blues
- Shygirl - Nymph
- Young Fathers - Heavy Heavy
Mae Sian yn o 12 beirniad arall, sydd wedi gwrando ar 250 o albymau cyn cwtogi’r rhestr i’r 12 olaf.
Ychwanegodd: “Mae o wedi bod yn amazing ond hefyd stressful mewn ffordd achos mae pawb yn amddiffyn yr albwm ma’ nhw’n rili mwynhau.
“Ac mae’r broses wedi bod yn mynd ymlaen ers misoedd erbyn hyn, so dwi meddwl dechrau nôl ym mis Mai gafon ni dderbyn 250 albwm, oedd heina i gyd yn y submissions so pawb oedd wedi submitio albwm flwyddyn yma oedd rhaid ni wrando drwyddyn nhw a dod a fo lawr i riw top 25 personol o fana’ nathon ni siarad trwy’r top 25 a dod a fo lawr i’r 12.
“Dwi'n rili excited gallu bod yn rhan mor allweddol I suppose o noson mor bwysig yn dathlu cerddoriaeth o Brydain.”
'Ail-wrnado'
Mae Sian wedi bod yn ail wrando ar yr albymau yn ystod y mis diwethaf cyn y noson fawr.
“Dwi wedi newid meddwl fi lot yn ystod y broses a dwi wedi bod yn gwrando ar y 12 mewn llefydd gwahanol fyd, os dwi ar y bws, neu yn y bath neu allan yn y parc, ti’n gallu cael teimlad gwahanol o bob albwm dim otch lle ti’n gwrando arno fo, ma’ huna wedi bod yn bwysig i fi, jyst ail wrando lot.
“Mae’n rili diddorol sut ma’ barn fi wedi esblygu dros y mis, mae gennai syniad o dri swni’n licio ennill.”
Bydd y seremoni yn cynnwys perfformiadau gan y mwyafrif o’r 12 sydd wedi eu henwebu, gan gynnwys y seren bop Raye, Ezra Collective a’r gantores soul Olivia Dean.