Y DU yn ail-ymuno â rhaglen wyddonol Horizon yr Undeb Ewropeaidd
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn ail-ymuno â rhaglen wyddonol Horizon yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd oedi yn y trafodaethau ar ôl Brexit oherwydd anghydfod dros drefniadau masnach Gogledd Iwerddon.
Fe wnaethon nhw gyhoeddi fore Iau bod cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd wedi ei arwyddo yn dilyn misoedd o drafodaethau.
Bydd yn golygu bod ymchwilwyr y DU yn gallu gwneud cais am grantiau a chymryd rhan ym mhrosiectau Horizon unwaith eto.
Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak: “Rydyn ni wedi gweithio gyda’n partneriaid yn yr UE i wneud yn siŵr mai hon yw’r cytundeb cywir i’r DU.
“Bydd yn creu cyfleoedd ymchwil, a hefyd o fudd i drethdalwyr Prydain.”
Roedd rhai o ymchwilwyr y DU wedi dweud eu bod nhw wedi colli allan o ganlyniad i beidio gallu cydweithio o fewn yr UE.
Dywedodd Llywydd corff Universities UK, yr Athro Sally Mapstone: “Mae caniatáu i’n gwyddonwyr gydweithio ar draws ffiniau o fudd i bob un ohonom.
“Bydd ein prifysgolion yn gwneud popeth posib nawr i sicrhau bod y DU yn cyfrannu fel oedden ni o’r blaen,” meddai.