Yr heddlu'n parhau i chwilio am gyn-filwr sydd wedi'i gyhuddo o derfysgaeth
Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am gyn-filwr sydd wedi’i gyhuddo o derfysgaeth ar ôl iddo ddianc o garchar Wandsworth, Llundain.
Fe wnaeth Daniel Abed Khalife, 21 oed, ddianc o’r carchar trwy ei glymu ei hun i waelod fan fwyd.
Cafodd Daniel Abed Khalife ei ryddhau o’r fyddin ym mis Mai 2023.
Roedd yn aros am ddechrau ei achos llys ar ôl honiadau ei fod wedi plannu bom ffug mewn canolfan RAF a chasglu gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i derfysgwyr neu elynion y DU.
Mae Khalife wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Ffoi
Cafodd ei weld cyn diflannu yn gwisgo crys T gwyn, trowsus coch a gwyn ac esgidiau brown, meddai’r Heddlu Metropolitan.
Y gred yw ei fod wedi dianc allan o gegin y carchar tua 07:50 ddydd Mercher.
Roedd oedi hir i'w weld mewn meysydd awyr a phorthladdoedd ddydd Mercher wrth i fesurau diogelwch llymach gael eu cyflwyno.
Mae’r awdurdodau'n credu y gall Khalife fod wedi ceisio ffoi o'r wlad.
Dywedodd pennaeth Ardal Reoli Gwrthderfysgaeth Heddlu Llundain, Dominic Murphy, nad oedd “unrhyw reswm i gredu bod Khalife yn fygythiad i’r cyhoedd yn gyffredinol”.
Er hyn, mae’r heddlu yn annog pobl i beidio â mynd yn agos ato ac i ffonio 999 os ydyn nhw’n ei weld.