Trais arlein yn erbyn menywod yn gyffredin yng Nghymru medd ymchwil newydd
Mae menywod yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol na’r rheini yn Lloegr o fod wedi profi trais yn eu herbyn ar-lein, yn ôl canlyniadau adroddiad newydd.
Mae 17% o fenywod yng Nghymru wedi profi trais ar-lein, yn ôl yr ymchwil "brawychus" gan y Brifysgol Agored.
Gall trais ar-lein yn erbyn menywod a merched ar-lein gynnwys trolio, bygythiadau, sylwadau rhywiol digroeso, a rhannu lluniau a negeseuon personol heb ofyn caniatâd.
Roedd 15% o fenywod yn Lloegr wedi profi trais ar-lein, canran ychydig yn llai na’r 17% yn yr Alban a Chymru.
Roedd menywod yng Nghymru (27%) yn llai tebygol o fod wedi gweld trais ar-lein yn digwydd i rywun arall na rhai yn Lloegr (30%) a’r Alban (35%).
Dywedodd yr Athro Olga Jurasz, Athro’r Gyfraith yn y Brifysgol Agored a arweiniodd y prosiect, y gallai trais ar-lein gael “effaith ddifrifol ar les menywod a’u hymddygiad”.
“Mae hynny’n cynnwys effaith negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol, gorfod amddiffyn eu hunain rhag camdriniaeth, a bod yn llai parod i fynegi barn ar-lein,” meddai.
“Dyma’r ymchwil cyntaf i gael ei gynnal ar y raddfa hon ar draws y pedair gwlad ac mae’n dangos pa mor eang yw’r mater mewn gwirionedd.
“Bydd yn rhoi sylfaen i lunwyr polisi helpu i leihau achosion o drais ar-lein yn erbyn menywod.”
‘Ffyrdd newydd’
Dywedodd Andrea Simon, Cyfarwyddwr EVAW, y Grŵp Dileu Trais yn Erbyn Menywod na ddylid “bychanu neu anwybyddu'r canfyddiadau”.
“Mae ein bywydau yn cael eu byw fwyfwy ar-lein ac mae datblygiadau technolegol yn creu ffyrdd newydd o gyflawni trais yn erbyn menywod a merched ifanc,” meddai.
“Mae’r cyfreithiau sydd gyda ni yn aneffeithiol o ran mynd i’r afael â thrais ar-lein yn erbyn menywod a merched.”
Fe wnaeth yr arolwg YouGov holi o 7500 o oedolion dros 16 oed.