Y cyflwynydd a’r canwr Wynne Evans ymysg y tri olaf yn Celebrity Masterchef
Mae’r cyflwynydd a’r canwr Wynne Evans wedi cyrraedd y tri olaf yng nghystadleuaeth Celebrity Masterchef 2023.
Mae Wynne, sy’n wreiddiol o Gaerfyrddin, yn lais cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio Wales, ac yn wyneb cyfarwydd fel y cymeriad Gio Compario ar hysbysebion ‘Go Compare’.
Mae’r gyfres eleni o Celebrity Masterchef ar BBC 1, wedi cynnwys wynebau amlwg fel y seren bop Jamelia, y cyflwynwyr Dani Dyer a Dave Benson Phillips, a’r actor James Buckley o’r gyfres The Inbetweeners.
Mae Wynne Evans wedi sôn yn gyson drwy’r gyfres ei fod yn awyddus i arddangos y cynnyrch a’r cig gorau sydd gan Gymru i’w gynnig fel bara lawr, cennin a chig oen organig.
Mae hefyd wedi defnyddio prydau cyflym enwog fel cyrri cyw iâr a sglodion o Heol Caroline yn y brifddinas fel ei ysbrydoliaeth mewn rowndiau blaenorol, ac wedi derbyn canmoliaeth gan y beirniaid, Gregg Wallace a John Torode.
Y ddau seleb arall fydd yn mynd ben ben ag Wynne ar gyfer teitl enillydd Celebrity Masterchef 2023 fydd yr actores Amy Walsh a seren Love Island Luca Bish, ac fe fydd enillydd y gyfres yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd rhaglen olaf y gyfres nos Wener.
Llun: BBC