Siop Labubu yng Nghaerdydd wedi ymweliad Starmer â Tsieina
Fe fydd siop deganau Labubu yn dod i Gaerdydd yn sgil ymweliad Syr Keir Starmer â Tsieina meddai Downing Street.
Dywedodd swyddfa’r Prif Weinidog fod yr ymweliad wedi sicrhau £2.2 biliwn mewn cytundebau allforio a mynediad i'r farchnad gwerth £2.3 biliwn arall dros y pum mlynedd nesaf yn ogystal â channoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad gan gwmnïau Tsieineaidd.
Ymhlith y cwmnïau hynny roedd Pop Mart, gwneuthurwyr y tegan poblogaidd Labubu, sydd wedi addo agor saith siop yn y DU gan gynnwys ar Oxford Street yn Llundain.
Mae Caerdydd a Birmingham hefyd wedi'u clustnodi ar gyfer siopau.
Daeth y Prif Weinidog â'i ymweliad â Tsieina i ben gyda chyfarfodydd ag uwch swyddogion lleol Plaid Gomiwnyddol Tsieina yn Shanghai fore Sadwrn.
Yna bydd yn teithio i Japan, lle bydd yn cwrdd â phrif weinidog newydd y wlad, Sanae Takaichi, cyn dychwelyd adref.
Llun: Kin Cheung / PA.