Carchar i ddyn o Wrecsam wnaeth gwrdd â'i ddioddefwr ar gêm gyfrifiadur

Nico Williams

Mae dyn 28 oed o Wrecsam wedi cael ei garcharu am naw mlynedd am grŵmio a cham-drin plentyn yn rhywiol ar ôl cyfarfod ar gêm gyfrifiadur arlein.

Cafodd Nico Williams, o Rostyllen, Wrecsam, ei garcharu am naw mlynedd gan Lys y Goron yr Wyddgrug.

Roedd wedi cyfaddef i bum cyhuddiad yn flaenorol gan gynnwys tri chyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn, cwrdd â phlentyn ar ôl grŵmio a gwneud delweddau anweddus.

Fe fydd Williams yn treulio dwy ran o dair o'r ddedfryd yn y ddalfa, a'r gweddill ar drwydded.

Cafodd hefyd orchymyn atal gydol oes i amddiffyn y dioddefwr, gorchymyn atal niwed rhywiol amhenodol a gofynion hysbysu fel troseddwr rhyw am oes.

Cafodd Williams ei riportio i'r heddlu ym mis Tachwedd y llynedd ar ôl i ffrind ddarganfod ei fod mewn perthynas rywiol â phlentyn.

Roedd y ffrind, a oedd â mynediad i Google Drive Williams, wedi dod ar draws delweddau a fideos anweddus o blentyn ac wedi'i riportio i'r heddlu.

Cafodd y dioddefwr ei adnabod fel merch 13 oed o ardal De Swydd Efrog, yr oedd wedi'i chyfarfod trwy chwarae gêm fideo i blant. Teithiodd Williams i gwrdd â'r dioddefwr ar nifer o achlysuron, lle bu'n cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda hi.

Wedi hynny, cafodd ei arestio a'i gyhuddo a'i gadw yn y ddalfa nes iddo gael ei ddedfrydu.

Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl James Hughes: “Mae hwn yn achos arall sy'n tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i blant a'u rhieni wybod yn union â phwy maen nhw'n siarad arlein.

“Mae Nico Williams yn ysglyfaethwr rhywiol, a wnaeth feithrin perthynas rywiol â'i ddioddefwr ac nid oes amheuaeth ei fod wedi peri risg sylweddol i blant eraill.”

“Yn ganolog i’r achos hwn mae merch ifanc, ac rwy’n ei chanmol am yr urddas a’r penderfyniad y mae wedi’u dangos wrth ddod â Williams gerbron y llys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.