Newyddion S4C

Oedi cyn rhyddhau cleifion o ysbytai yn 'effeithio ar ddarparu gofal diogel’

07/09/2023
CC

Mae adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn dweud bod oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai yng Nghymru yn effeithio ar y gwaith o ddarparu gofal diogel.

Fe wnaeth yr Arolygiaeth adolygu’r broses o symud cleifion drwy'r system gofal iechyd, o'u derbyn i'r ysbyty i'w rhyddhau.

Fe wnaeth AGIC ystyried taith cleifion drwy'r llwybr strôc fel rhan o'r adolygiad.

Mae'r adolygiad wedi amlygu bod heriau sylweddol, ledled Cymru, sy'n cael "effaith negyddol ar effeithlonrwydd llif cleifion, sy'n golygu nad yw cleifion bob amser yn cael y gofal sydd ei angen arnynt mewn modd amserol a phriodol".

Mae AGIC wedi gwneud argymhellion sy'n cynnwys yr angen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio'n fwy effeithiol i fynd i'r afael â'r materion hyn a gwella taith y claf.

Canfyddiadau 

Mae canfyddiadau'r adolygiad yn datgelu "heriau cyson a achosir gan lif cleifion gwael ledled Cymru", sy'n rhwystro'r gwaith o ddarparu gofal yn amserol ac yn briodol.

Mae'r heriau hyn yn amrywiol eu cwmpas medd AGIC, ond maent yn deillio'n bennaf o'r galw uchel am welyau ar y cyd â'r cymhlethdodau sydd ynghlwm â rhyddhau cleifion meddygol iach o ysbytai.

Yn ystod yr adolygiad, fe wnaeth AGIC ganfod fod cydweithredu da rhwng y timau amlddisgyblaethol strôc mewn perthynas â pharatoi claf i'w ryddhau o'r ysbyty, ond bod oedi wrth drosglwyddo gofal a rhyddhau cleifion sy'n feddygol iach i adael gofal acíwt.Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i argaeledd gwelyau mewn cartrefi gofal neu ofal cymdeithasol a therapïau adsefydlu a ddarperir yn y cartref medd AGIC.

Yn ôl yr adolygiad, dyw’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ddim yn gweithredu mor effeithlon ag y gallent gan gynyddu'r risg y bydd cymhlethdodau o ganlyniad i oedi cyn rhyddhau claf ac mae'n cael effaith sylweddol ar y system iechyd a gofal gyffredinol yng Nghymru.

Ychwangeodd yr adroddiad fod “angen ymdrechion o'r newydd gan y sector iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â phroblem llif cleifion gwael, a hynny ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru.”

'Mesysydd i'w wella'

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones: "Mae gwella'r llif cleifion yn gwella profiad y claf, yn gwella canlyniadau, ac yn lleihau cyfraddau aros ac oedi. 

"Rwy'n falch bod ein gwaith wedi ein galluogi ni i nodi meysydd i'w gwella, ac i dynnu sylw at feysydd arfer da. Nid dim ond mewn perthynas â'r llwybr strôc, ond i bob claf. Yr hyn sy'n hanfodol nawr yw bod pob rhan o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio mor effeithiol â phosibl i fynd i'r afael â llif gwael a chyflawni canlyniadau gwell i gleifion yng Nghymru. 

"Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r staff sy'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymdrechu i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad yn darparu sail gref a chadarnhaol i wella arni."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cydnabod a byddwn yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, ac yn disgwyl i fyrddau iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG a rhaglenni gwella cenedlaethol adolygu’r canfyddiadau hefyd.
 
“Mae ein Datganiad Ansawdd ar gyfer Strôc yn amlinellu ein hymrwymiad i wella canlyniadau i bobl sy’n dioddef strôc, ac mae cynllun gwella ambiwlansys ar waith i gynyddu staffio, gwella amseroedd ymateb a pherfformiad trosglwyddo.
 
“Rydym hefyd wedi dyrannu £25m ychwanegol y flwyddyn i helpu pobl i gael mynediad at ofal brys a gofal brys yn nes at eu cartrefi heb eu derbyn a £145m ar Gronfa Integreiddio Ranbarthol sy’n cynnwys ffocws ar gefnogi pobl adref o’r ysbyty.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.