17 wedi'u lladd mewn ymosodiad taflegrau ar dref farchnad yn Wcráin
Mae o leiaf 17 o bobol wedi’u lladd mewn ymosodiad taflegrau ar ddinas Kostyantynivka yn Wcráin
Dywedodd yr Arlywydd Volodymyr Zelensky bod y rhai a gafodd eu lladd yn “bobl na wnaeth unrhyw beth o’i le” – a rhybuddiodd y gallai’r nifer o farwolaethau gynyddu.
Mae Kostyantynivka yn rhanbarth dwyreiniol Donetsk yn Wcráin, sydd ddim yn bell o rheng flaen y brwydro rhwng lluoedd Rwsia a Wcráin.
"Rhaid trechu Rwsia cyn gynted â phosib," ychwanegodd Mr Zelensky. Nid yw'r awdurdodau ym Moscow wedi gwneud sylw am yr honiadau.
Ymhlith yr 17 sydd wedi marw mae plentyn, a'r gred yw bod o leiaf 20 arall wedi’u hanafu, yn ôl gwybodaeth a rannwyd gan Brif Weinidog Wcráin, Denys Shmyhal.
“Mae pob gwasanaeth yn gweithio,” meddai, gan ychwanegu: “Mae’r tân wedi’i gyfyngu.”
Fe gafodd marchnad, siopau a fferyllfa eu taro.
Mae Rwsia wedi gwadu targedu dinasyddion yn y gorffennol.
Llun: Telegram