Stampiau newydd i anrhydeddu gyrfa'r Fonesig Shirley Bassey
Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi delweddau 12 stamp arbennig i anrhydeddu gyrfa gerddorol y Fonesig Shirley Bassey.
Fe fydd y stampiau yn nodi 70 mlynedd ers dechrau ei gyrfa.
Hi yw'r artist unigol benywaidd cyntaf i gael ei hanrhydeddu â rhifyn stamp arbennig.
Mae wyth stamp yn y brif set sy’n dangos y Fonesig Shirley yn perfformio drwy gydol ei gyrfa.
Mae’r pedwar stamp arall, yn ei dangos yn ystod sesiynau recordio ac ymarferion.
Dywedodd y Fonesig Shirley: “Rwyf wrth fy modd a ni fyddwn i fyth wedi breuddwydio gweld fy wyneb ar stamp rhyw ddiwrnod.
“Un diwrnod efallai y bydd llythyr yn cyrraedd a dyna fi, gyda marc post wrth fy ymyl!
“Mae’n anrhydedd llwyr i fod yr artist unigol benywaidd cyntaf i dderbyn casgliad gan y Post Brenhinol.
“Mae’r stampiau’n fendigedig, a gobeithio bod fy nghefnogwyr yn eu caru nhw gymaint ag ydw i.”
'Dathliad'
Dywedodd David Gold, cyfarwyddwr materion allanol a pholisi’r Post Brenhinol: “Ers saith degawd mae’r Fonesig Shirley Bassey wedi swyno cefnogwyr ledled y byd gyda’i llais nodedig a phwerus.
“Mae’r rhifyn stamp hwn yn ddathliad teilwng o un o eiconau cerddorol mwyaf parchus a hiraf y DU.”
Mae rhai o’r stampiau yn cynnwys y Fonesig Shirley yn canu yng nghlwb nos Pigalle yn 1965, ac yn canu 'World In Union' gyda Syr Bryn Terfel yn Seremoni Agoriadol Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999.
Llun: PA