Newyddion S4C

Y DU yn sicrhau cytundeb masnach gyda Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein

Sky News 04/06/2021
Norwy

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dod i gytundeb masnach gyda Norwy, Gwlad yr Iâ, a Liechtenstein. 

Daeth cadarnhad brynhawn dydd Gwener gan y Gweinidog ar Fasnachu Rhyngwladol, Liz Truss. 

Mae’r cytundeb, sydd wedi’i harwyddo mewn egwyddor, werth £21 biliwn.

Dywed y llywodraeth y bydd yn “torri tariffau ar fwyd a chynnyrch fferm Brydeinig, yn ogystal â chefnogi swyddi ym mhob agwedd o’r wlad”. 

Bydd yn cynnig “hwb sylweddol” i fasnach y Deyrnas Unedig, yn ôl Ms Truss. 

Bydd tariffau ar nwyddau o Norwy yn gostwng o ganlyniad i’r cytundeb, gyda cwotas yn cael eu cyflwyno ar gyfer cig moch, dofednod a nwyddau eraill. 

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.