Ymchwiliad wedi gwrthdrawiad angheuol rhwng bws a cherbyd ar Bont Cleddau
Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i yrrwr car farw mewn gwrthdrawiad gyda bws ar Bont Cleddau yn Sir Benfro.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y bws a'r car toc ar ôl 14.15 brynhawn Mawrth.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Mercher fod y dyn oedd yn gyrru'r car wedi marw, a bod gyrrwr y bws mewn cyflwr difrifol ond yn sefydlog yn dilyn y gwrthdrawiad. Mae teulu'r gyrrwr a fu farw yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol.
Cafodd nifer o bobl oedd yn y bws eu cludo i'r ysbyty brynhawn Mawrth. Maen nhw'n bellach wedi gadael yr ysbyty, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.
Roedd 24 o deithwyr ar y bws. Roedden nhw'n dod o ardal Cumbria yng ngogledd Lloegr, ac roedden nhw ar eu gwyliau yn yr ardal.
Yn fuan wedi'r gwrthdrawiad, cyhoeddodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod naw o bobl wedi eu cludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ac un person wedi ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Llwyddodd y gwasanaethau brys i ryddhau gyrrwr a oedd wedi ei gaethiwo, yn dilyn yr hyn a gafodd ei ddisgrifio fel “digwyddiad mawr" ar y bont rhwng Doc Penfro a Neyland
Roedd un o'r gyrwyr yn y gwrthdrawiad yn gaeth ac fe dreuliodd criwiau beth amser yn ceisio ei ryddhau, cyn iddo gael ei gludo i ysbyty mewn Ambiwlans Awyr.
Yn ôl datganiad gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, fe gafodd criwiau o Ddoc Penfro, Aberdaugleddau, Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod ac Arberth eu galw i'r safle am 14.19 brynhawn Mawrth.
Mae Pont Cleddau a'r ffordd gerllaw bellach wedi ail -agor.
‘Diolch’
Fe ymatebodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i'r gwrthdrawiad: "Pryderus clywed am ddigwyddiad ar Bont Cleddau.
"Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio, a hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu gwaith caled."