Newyddion S4C

RAAC: Addysg ar-lein dros dro i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi

05/09/2023
caergybi

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyhoeddi y bydd pob disgybl yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn derbyn addysg ar-lein dros dro o ddydd Iau 7 Medi.

Mewn datganiad nos Fawrth dywedodd y cyngor na fyddai disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon.

Ond maen nhw’n dweud mai'r gobaith yw y bydd rhai disgyblion yn gallu dychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf ar ôl cynnal arolygiadau arbenigol pellach ar goncrit diffygiol RAAC sydd yn yr adeilad.

Fe fydd Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy yn ail-agor yn rhannol i ddisgyblion Blwyddyn 7, 11 a 12 ddydd Iau.

Fel rhan o’r trefniadau, bydd staff a disgyblion yn cael eu hadleoli i ardaloedd yn yr ysgol sydd ddim wedi’u heffeithio gan goncrit diffygiol RAAC.

"Mae gwaith adferol ychwanegol yn cael ei wneud gyda'r gobaith o sicrhau bod rhagor o ddisgyblion yn gallu dychwelyd i'r ysgol yn ddiogel, a chyn gynted â phosibl", ychwanegodd y cyngor.

Mae rhieni a gwarcheidwaid Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi wedi cael gwybod am y datblygiadau hyn. Bydd yr ysgolion yn parhau i’w diweddaru yn rheolaidd meddai'r datganiad.

'Heriau sylweddol'

Mewn llythyr at rieni a gwarcheidwaid nos Fawrth, dywedodd pennaeth Ysgol David Hughes, Emyr Williams, fod y staff yn parhau i wynebu "heriau sylweddol hefo adeilad yr ysgol gyda nifer o ardaloedd tri llawr ddim ar gael i ni ar hyn o bryd. 

"Rydym yn disgwyl arweiniad pellach gan arbenigwyr proffesiynol cyn gallu croesawu pawb yn ôl i'r ysgol."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: “Ein prif flaenoriaeth o hyd yw diogelwch ein pobl ifanc a holl staff. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio’n ddiflino ers i ni ddod yn ymwybodol o’r mater cenedlaethol hwn.”

“Mae’r ddau adeilad ysgol wedi cael eu heffeithio yn wahanol gan RAAC. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi cymunedau’r ddwy ysgol yn ystod y cyfnod heriol hwn. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n penaethiaid, Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr allanol i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ddatrys mor ddiogel a chyflym â phosibl.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd Medi: “Hoffwn ddiolch i’n pobl ifanc, rhieni a staff am eu hamynedd a’u cydweithrediad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.