Newyddion S4C

Noson gynhesaf erioed ym mis Medi yng Nghymru?

06/09/2023
Tymheredd uchel

Mae'n bur debyg y caiff record ei thorri yng Nghymru ganol yr wythnos hon, sef y noson gynhesaf erioed ym Mis Medi, yn ôl dadansoddwyr y Swyddfa Dywydd.       

Ar hyn o bryd, y tymheredd uchaf erioed dros nos yng Nghymru ym mis Medi yw 20.5 gradd selsiws.

Gan fwrw golwg ar y Deyrnas Unedig, mae'r swyddfa dywydd yn rhagweld mai dydd Mercher fydd diwrnod poetha'r flwyddyn hyd yn hyn.   

Y darogan ydy y bydd y tymheredd yn cyrraedd 33 gradd selsiws  yr wythnos hon, gyda nifer fawr o ranbarthau yn profi gwres uwchben 30 gradd selsiws.

Gyda'r tymheredd wedi parhau yn uchel dros y tridiau diwethaf, mae'n golygu ei bod yn gyfnod o don wres neu heatwave. Mae angen iddi fod yn 25 gradd selsiws neu'n uwch am dridiau yn olynol yn y rhan fwyaf o Gymru er mwyn i hynny gael ei gofnodi.  

Yn ôl dadansoddwyr y tywydd, wythnos gyntaf Medi yw'r cyfnod poeth sefydlog cyntaf ers mis Mehefin, wedi cyfnod anarferol o wlyb ym mis Gorffennaf.   

Ond maen nhw o'r farn y gallai'r tymheredd ddechrau disgyn yn raddol dros y penwythnos.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.