Newyddion S4C

Pwysau'n cynyddu ar Lywodraeth Cymru yn sgil sefyllfa concrit RAAC

05/09/2023

Pwysau'n cynyddu ar Lywodraeth Cymru yn sgil sefyllfa concrit RAAC

Mae AS Plaid Cymru wedi galw am “dryloywder” gan Lywodraeth Cymru yn sgil y sefyllfa yn ymwneud â choncrit RAAC mewn adeiladau ysgolion, gan honni fod y mater “yn llawer mwy na gêm wleidyddol”.

Daw sylwadau llefarydd y blaid ar addysg, Heledd Fychan, yn dilyn ymchwiliad gan Newyddion S4C, sydd wedi datgelu fod datganiad gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf yn honni bod adolygiad o safleoedd ysgolion yng Nghymru a gomisiynwyd ym mis Mai a fyddai’n datgelu defnydd o RAAC yn yr adeiladau, mewn gwirionedd yn brosiect ar ddatgarboneiddio, sydd i fod i ddechrau ym mis Hydref ac i barhau am 12 mis.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ateb cwestiynau pellach ar faint o safleoedd addysgol sydd wedi cael eu harolygu hyd yma, ond mae’r llywodraeth yn dweud y dylai pob safle fod wedi cael eu harchwilio erbyn wythnos i ddydd Gwener [Medi 15].

Daw’r newyddion hefyd wrth i Roco Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru, feirniadu Llywodraeth Cymru, gan honni bod diffyg eglurder i rieni a disgyblion yn y datganiadau sydd wedi eu gwneud hyd yma gan y llywodraeth.

Yr wythnos diwethaf, fe ddaeth i'r amlwg bod RAAC wedi'i ddarganfod mewn dros 150 o ysgolion yn Lloegr. 

Mae pryderon fod y math yma o goncrit, sy'n cynnwys tua 70% o aer, ac yn mynd yn ansefydlog ar ôl tua 30 mlynedd, yn gallu cwympo heb rybudd.

Mewn ymateb, dywed Llywodraeth Cymru mewn datganiad fod “dull gwahanol” wedi’i fabwysiadu yng Nghymru a’u bod wedi comisiynu “arolwg cyflwr o’r holl ysgolion a cholegau sy’n cael eu hariannu gan y wladwriaeth a fydd yn nodi unrhyw strwythurau sy’n debygol o gynnwys RAAC...yn gynharach yn y flwyddyn". 

Yn ddiweddarach dywedodd y llywodraeth wrth y BBC fod y gwaith wedi ei gomisiynu ym mis Mai.

Ond yn dilyn cyfres o e-byst, mae’r llywodraeth bellach wedi cadarnhau fod yr arolwg cyflwr mewn gwirionedd yn ymwneud â darn o waith arall, lle mae cwmni o’r enw Aecom wedi cael eu comisiynu i asesu datgarboneiddio safleoedd ysgolion.

Yn ôl yr adroddiad, byddai gwaith peilot yn dechrau dros yr haf gyda’r gwaith gwirioneddol i ddechrau ym mis Hydref 2023, a fyddai’n para 12 mis.

Mae Cyngor Ynys Môn eisoes wedi cadarnhau bod dwy ysgol ar yr ynys wedi darganfod bod concrit RAAC yn bresennol ar eu safleoedd.

Dywedodd Heledd Fychan AS: “Dylai diogelwch plant a phobl ifanc yn ogystal â’r rhai sy’n gweithio mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom. 

“Mae hwn yn fater llawer rhy ddifrifol i chwarae gwleidyddiaeth gydag o."

“Mae angen tryloywder llwyr gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r gwaith sydd wedi’i gwblhau, a’r gwaith sydd eto i’w wneud”.

Nid oedd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles ar gael i wneud sylw. 

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am fanylion pryd yn union y cysylltodd Aecom ag ysgolion am y tro cyntaf, a faint o ysgolion sydd bellach wedi clywed gan y cwmni. 

Nid oes ymateb wedi dod i law hyd yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.