
Portreadu salwch meddwl Cai yn un o'r golygfeydd anoddaf i'r actor Rhys ap William
Portreadu salwch meddwl Cai yn un o'r golygfeydd anoddaf i'r actor Rhys ap William
Ar ddechrau mis Atal Hunanladdiad, mae’r gyfres Pobol y Cwm yn darlledu pennod arbennig nos Fawrth i godi ymwybyddiaeth am hynny drwy stori’r cymeriad Cai.
Yr actor Rhys ap William, sy’n chwarae cymeriad Cai, a bu'n siarad â Newyddion S4C.
Mae’r gyfres wedi bod yn dilyn salwch y cymeriad ers iddo ddychwelyd i Gwmderi.
“Wel ma stori Cai rili wedi dechre yn y gyfres ddiwethaf 'o ni’n ffilmo", meddai.
“Ma fe wedi lando nôl yn y Cwm, ma wedi cal, neu yn mynd trwy ysgariad a wedyn ‘ma fe’n colli’r plant hefyd a ma' cariad newydd yn dod mewn gyda’i gyn-wraig e.
“A wedyn dyna gwraidd y peth.
“Roedd e’n dechre cal ambell i broblem gydag anxiety yn y gyfres diwethaf a dyw hwnna byth wedi gadael e.
“Colli gweld ei blant e, colli gafael ar er fywyd e a bod amser jyst yn diflannu a bod dim byd 'da fe, bod neb isie fe rhagor.
“'Na be sy’n digwydd i Cai, fi’n meddwl bod e’n sylweddoli s’neb mo'yn fi rhagor, ma bywyd lot yn rhwyddach i bawb heb fi a ma fe'n casau ei hunan.”
Mae’r tîm cynhyrchu wedi bod yn cydweithio gydag elusen y Samariaid a dilyn cyngor Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl er mwyn creu’r bennod arbennig.

Siarad
Y bennod hon yw’r uchafbwynt, medd yr actor a dyma un o’r golygfeydd anoddaf iddo orfod saethu.
“Ma Cai wedi gweud hwyl fawr wrth bawb, ysgrifennu llythyron at bawb, i’r bobl pwysig yn ei fywyd e.
“Ma fe wedi ffeindio rhyw fath o lonyddwch, o heddwch yn ei benderfyniad e bod e ddim yn mo'yn bod ar y blaned 'ma rhagor.
“Ma' fe mynd i adael y Cwm a dyw e ddim yn mynd i ddod nôl. Ma fe’n meddwl taw 'na’r ffordd orau mas i bawb."
Fe fydd y bennod yn pwysleisio pwysigrwydd siarad â phobl am deimladau.
Yn ôl yr actor, siarad wnaeth achub bywyd Cai.
Corddi’r dyfroedd
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd yr actor bod chwarae’r rôl hon wedi “corddi’r dyfroedd” ynglyn â’i deimladau ei hun.
“Mae 'di bod yn sialens, s'dim dwywaith amdani. Chi ddim yn sylweddoli 'na, faint o flinder o ni'n cal ar ôl dod nôl or gwaith. A’r moods o' ti yno hefyd. Dyw’r meddwl ddim yn gwybod bod ni'n actio.
“Fi ‘di siarad eitha lot am iselder a pan o'n i’n dioddef o'dd dealltwriaeth fi o beth o'dd yn mynd mlân yn bwysig.
“A wedyn wrth bortreadu Cai, o'dd y ffaith fy mod i wedi mynd trwy y broses fy hun a wedi cal help a dyna beth o' ni mo'yn codi ymwybyddiaeth am.
“Dyw hunan laddiad ddim yn anochel."
Er iddo gymryd amser i estyn allan a siarad gyda rhywun, esboniodd yr actor sut newidodd pethau ar ôl cymryd y cam yna.
“Newidodd pethach yn syth achos o ni’n deall e,” meddai.
“Nawr odi‘r ffaith bod fi yn chwarae rhywun sydd yn dioddef o iselder wedi corddi’r dyfroedd tipyn bach? Bydden ni’n gweud celwydd os o' ni’n gweud 'na, dim o gwbl.
“Ma fe ‘di dod ag atgofion nôl a fi di defnyddio rhai o’r atgofion na wedyn wrth chwarae Cai, wrth bortreadu fe mewn rhai o’r golygfeydd ‘ma sy di bod yn help i fi fel actor wrth gwrs.
"Ma’r dealltwriaeth gyda fi, a dyna beth fi mo'yn cyfleu i bawb - unwaith ma’r dealltwriaeth 'da chi o beth sy’n digwydd yn eich meddwl chi a beth sy’n mynd mlan, ma' hwnna yn gam anferth i wella.
“Chi byth yn gwella yn gyfan gwbl sai’n credu.
"Ond ti’n gwybod beth sy’n mynd mlan a ti’n deall e."
Tabŵ
Pwrpas y bennod hon, a’r stori yn ei chyfanrwydd, yw i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, yn enwedig ymysg dynion.
Mae Rhys ap William yn credu bod “tabŵ” yn ymwneud â iechyd meddwl dynion.
Dywedodd: “Dwi ddim yn credu bod dynion wedi newid ers canrifoedd, miloedd o flynyddoedd efallai.
“A dydyn nhw ddim 'isie siarad, ddim 'isie bod yn agored am bethach a dyna pam dwi’n meddwl bod yr ystadegau yn dangos fod mwy o hunanladdiad ymysg dynion ifanc na neb arall a ma' hwnna yn drist.”
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan elusen Y Samariaid, mae cyfradd hunanladdiadau yng Nghymru yn cynyddu.
Yn 2021, bu 19.7 i bob 100,000 o achosion hunanladdiad ymysg dynion. Cynnydd o’r gyfradd yn 2020, sef 12.7 i bob 100,000.
Ychwanegodd yr actor: “Ma' trin a thrafod, iselder, iechyd meddwl, hunanladdiad, ma' fe’n bwysig i ni fel cyfres ac actorion i gal e’n iawn.
“Drama i ni’n neud ond ma’n rhaid bod yn onest, talu teilyngod i’r pwnc a cal bobl i drafod e.
“A na un peth ni mo'yn neud yw cal pobl i drafod e yn enwedig dynion.”
Fe fydd y bennod arbennig hon yn cael ei darlledu ar S4C, nos Fawrth 5 Medi.