Cannoedd o fenywod y DU 'i gymryd camau cyfreithiol' dros ddyfais atal cenhedlu
Mae’n bosib i fenywod yn y DU sy’n honni eu bod wedi’u gadael mewn poen ar ôl gosod dyfais atal cenhedlu barhaol gymryd camau cyfreithiol drwy’r llysoedd yn erbyn ei wneuthurwr.
Mae’r BBC yn adrodd fod y coil Essure "wedi achosi difrod corfforol a meddyliol", yn ôl cyfreithwyr 200 o fenywod.
Mae'r cwmni sy'n berchen ar Essure, Bayer yn dweud y bydd yn amddiffyn ei hun yn erbyn yr honiadau.
Pan gafodd Essure ei dynnu’n ôl o'r farchnad yn 2017, dywedodd rheoleiddiwr meddyginiaethau’r DU nad oedd unrhyw risg i ddiogelwch.
Dechreuodd cyfreithwyr yn Lloegr achos cyfreithiol yn 2020 a bellach mae ganddyn nhw ganiatâd i ddwyn achos grŵp ar ran 200 o fenywod.
Mae gan fenywod eraill sy'n dymuno ymuno â'r grŵp gweithredu tan 2024 i wneud hynny.
Beth yw Essure?
Coil metel bychan yoedd dyfais Essure wedi'i osod i mewn i diwbiau ffalopaidd menyw, gan rwystro sberm rhag cyrraedd yr wyau.
Wedi'i lansio yn 2002, cafodd y ddyfais ei marchnata fel dewis amgen symlach i sterileiddio trwy lawdriniaeth.
Ond dywed rhai merched eu bod wedi dioddef poen a chymhlethdodau cyson, gan gynnwys gwaedu trwm, gyda rhai yn y pen draw yn cael hysterectomy neu dynnu'r ddyfais yn gyfan gwbl.
Dywedodd llefarydd cwmni Bayer wrth y BBC: “Blaenoriaeth uchaf Bayer yw diogelwch ac effeithiolrwydd ein cynnyrch ac mae gennym ni gydymdeimlad mawr ag unrhyw un sydd wedi profi problemau iechyd wrth ddefnyddio unrhyw un o’n cynhyrchion, waeth beth fo’u hachos."
Roedd y cwmni ac ymchwilwyr eraill wedi cwblhau 10 treial clinigol a mwy na 70 o astudiaethau arsylwi cyn marchnata'r ddyfais, meddai.
“Er bod risgiau i pob cynnyrch rheoli geni, mae cyfanswm y dystiolaeth wyddonol ar Essure yn dangos bod y proffil risg budd yn gadarnhaol,” meddai.