Newyddion S4C

Kim Jong Un 'i ymweld â Vladimir Putin i drafod arfau'

05/09/2023
S4C

Mae posibilrwydd y bydd Kim Jong Un yn teithio i Rwsia i gwrdd â’r arlywydd Vladimir Putin, yn ôl un o swyddogion yr Unol Daleithiau.

Fe allai arweinydd Gogledd Korea wneud y daith mor gynnar â’r mis hwn, yn ôl y ffynhonnell ddienw.

Fe ddaw hyn wrth i’r Unol Daleithiau honni bod y Kremlin yn ceisio derbyn offer milwrol ar gyfer ei ymgyrch filwrol yn Wcráin.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol, Adrienne Watson, ddydd Llun fod gweinidog amddiffyn Rwsia, Sergei Shoigu, wedi teithio i brifddinas Gogledd Korea, Pyongyang fis diwethaf.

Credir bod Mr Shoigu wedi ceisio perswadio Gogledd Korea - un o'r gwledydd mwyaf milwrol yn y byd - i werthu magnelau i Rwsia.

Dywedodd Ms Watson: "Mae gennym ni wybodaeth bod Kim Jong Un yn disgwyl i'r trafodaethau hyn barhau.”

Ychwanegodd fod yr Unol Daleithiau yn annog Gogledd Korea i “roi’r gorau i’w thrafodaethau arfau gyda Rwsia a chadw at yr ymrwymiadau cyhoeddus y mae Pyongyang wedi’u gwneud i beidio â darparu na gwerthu arfau i Rwsia”.

Fe wnaeth Mr Shoigu hefyd ddweud ddydd Llun y gallai Rwsia a Gogledd Korea gynnal ymarferiadau rhyfel ar y cyd.

“Pam lai, dyma ein cymdogion,” meddai wrth wasanaeth newyddion yn Rwsia.

Mae Gogledd Korea eisoes wedi gwadu unrhyw fwriad i “ddelio arfau” â Rwsia.

Llun: Wikicommons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.