Newyddion S4C

‘Ymddiheuro’: Cymru yw’r gwaethaf am drenau wedi eu canslo

Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n “ymddiheuro” am oedi gyda’u gwasanaethau wedi i ffigyrau newydd ddangos mai Cymru yw’r gwaethaf yn y DU am drenau wedi eu canslo.

Roedd 7% o drenau Cymru wedi eu canslo rhwng 1 Ionawr a 31 Gorffennaf eleni, yn ôl ymchwil On Time Trains.

Roedd hynny’n cymharu â 3% ar gyfartaledd ar draws y DU.

Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, mai “problemau dros dro” oedd yn gyfrifol.

Ychwanegodd mai nid nhw oedd yn gyfrifol am holl wasanaethau rheilffordd Cymru, chwaith.

“Roedd y cyfnod rhwng Ionawr a Gorffennaf 2023 yn cynnwys cyfnod pan oedd cerbydau yn brin,” meddai.

“Fe achoswyd hynny gan dri thân injan ar ein fflyd Dosbarth 175. Bu’n rhai tynnu’r fflyd yn ôl wedyn tra bo gwaith i’w ddiogelu yn cael ei wneud.

“O ganlyniad roedd y gyfradd o ganslo trenau yn uwch na’r arfer.

“Mae’r problemau dros dro hyn bellach wedi’u trwsio, ac mae ein trenau Dosbarth 197 newydd sbon wedi eu cyflwyno ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

“Bydd hyn yn help i atal unrhyw brinder trenau yn y dyfodol.

“Rydym yn deall yr effaith y mae canslo a phrinder capasiti yn ei gael ar ein cwsmeriaid, a hoffen ni ymddiheuro am y problemau yn gynharach eleni.

“Bydd y sefyllfa’n gwella wrth i ni gael mwy o’r trenau newydd yn ystod 2023, a thrwy gydol 2024.”

‘Prydlon’

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am isadeiledd rheilffyrdd Cymru tra bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wasanaethau ac yn eiddo ar gwmni Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw am ymateb yn uniongyrchol, gan adael i Drafnidiaeth Cymru ymateb ar eu rhan.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth y DU: “Mae gweinidogion wedi bod yn glir gyda gweithredwyr bod angen iddynt ddarparu gwasanaethau prydlon, gan leihau oedi cymaint â phosib.

“Er mwyn helpu i wneud ein rheilffyrdd yn fwy dibynadwy, mae’n hanfodol bod undebau’n cytuno i newidiadau a fydd yn sicrhau bod y diwydiant yn moderneiddio.”

‘Dibynadwy’

Wrth ymateb ar ran y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, dywedodd yr AS Janet Finch-Saunders mai Llywodraeth Cymru oedd ar fai am y ffigyrau.

“Mae’n annerbyniol mai Cymru sydd â’r ganran uchaf o drenau wedi eu canslo yn y DU,” meddai.

“Sut y gall y cyhoedd ddibynnu ar drenau Trafnidiaeth Cymru pan mae gymaint yn cael eu canslo?

“Mae problemau o hyd gyda threnau yng Nghymru; oedi, gorlenwi, a hyn.

“Mae pobl yn cael eu hannog i deithio ar drenau yng Nghymru ond mae'r gwasanaeth yn ofnadwy o wael.

“Rwy’n annog Trafnidiaeth Cymru i adolygu’r ystadegau hyn, a chydweithio â Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ateb i atal problemau pellach.”

‘Gwael’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn “deithiwr trên cyson” ac nad oedd yr ystadegau yn syndod iddo.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw’r gwasanaeth yn ddigon da ond heb gymryd y camau sydd eu hangen er mwyn gwella hynny,” meddai.

“Mae’n wael i’r economi ac yn ein gadael ar y droed ôl os ydyn ni am argyhoeddi mwy o bobl o rinweddau trafnidiaeth gyhoeddus.

“Yn y cyfamser mae llywodraeth Geidwadol y DU yn parhau i atal Cymru rhag cael £5bn sy’n ddyledus o ganlyniad i HS2 yn Lloegr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.