Newyddion S4C

Prif Gwnstabl Gogledd Iwerddon yn ymddiswyddo ar ôl sawl achos dadleuol

04/09/2023
Simon Byrne Gogledd Iwerddon

Mae Simon Byrne, prif gwnstabl Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi ymddiswyddo. 

Daw'r cyhoeddiad wedi i gyfarfod cyhoeddus Bwrdd Plismona Gogledd Iwerddon gael ei ganslo, wrth i Simon Byrne wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth.

Roedd cyfarfod arbennig o'r bwrdd i fod i'w gynnal yn ddiweddarach ddydd Llun, ond bellach mae'r Prif Gwnstabl wedi ymddiswyddo, a hynny ar unwaith. 

Mae ffrae wedi codi ar ôl i farnwr yr Uchel Lys, Mr Ustus Scoffield ddyfarnu fod dau swyddog wedi eu disgyblu yn anghyfreithlon, ar ôl arestiad yn ystod digwyddiad yn 2021 i gofnodi'r trafferthion yng Ngogledd Iwerddon.  

Dywedodd y Barnwr eu bod nhw wedi eu disgyblu er mwyn tawelu bygythiad gan Sinn Féin i beidio â chefnogi plismona yng Ngogledd Iwerddon mwyach.

Mae Sinn Féin yn mynnu na wnaethon nhw fygythiad o'r fath. 

Wedi cyfarfod brys o'r pwyllgor plismona ddydd Iau, mynnodd Mr Byrne na fyddai'n ymddiswyddo, gan nodi ei fod yn ystyried apelio yn erbyn dyfarniad y llys.  

Ddydd Gwener, cadarnhaodd arweinydd plaid y DUP  Syr Jeffrey Donaldson nad oedd gan ei blaid hyder yn y Prif Gwnstabl mwyach, a'i fod wedi nodi hynny'n ffurfiol wrth y bwrdd. 

Yn ogystal, mae ymchwiliad ar y gweill wedi i reolau gwarchod data gael eu torri ym mis Awst.

Cafodd gwybodaeth bersonol am holl aelodau o'r heddlu eu cyhoeddi yn ddamweiniol, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth. 

Roedd y manylion yn cyfeirio at 10,000 o swyddogion yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon, eu cyfenwau, llythyren gyntaf eu henwau, eu rheng neu radd, eu lleoliad a'u hunedau.

Mae Heddlu Gogledd Iwerddon wedi cadarnhau fod y rhestr ym meddiant gweriniaethwyr eithafol, sy'n dal i dargedu swyddogion yr heddlu.   

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.