Newyddion S4C

Rhybudd y bydd yr argyfwng costau byw yn parhau trwy fisoedd y gaeaf

05/09/2023
Biliau / Costau byw

Mae data newydd gan Sefydliad Bevan yn awgrymu nad oes unrhyw ddatblygiadau cadarnhaol allai  leddfu effaith yr argyfwng costau byw ar deuluoedd Cymru.

Cafodd y data ei gasglu gan YouGov ar ran y felin drafod, Sefydliad Bevan.

Yn ôl yr ystadegau mae'r esgid yn dal i wasgu ar deuluoedd Cymru.

Roedd mwy na 15%, weithiau, yn aml neu bob amser yn ei chael hi’n anodd fforddio eitemau hanfodol ym mis Gorffennaf 2023.

Yn ôl y ffigyrau nid yw’r sefyllfa wedi newid llawer o gymharu â mis Ionawr 2023 pan gafodd 14% o aelwydydd Cymru drafferth i fforddio hanfodion.

Dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan: “Wrth i chwyddiant ddechrau arafu, efalli bod gobeithion gan rai bod yr argyfwng costau byw wedi dod i ben.

“Ond mae’r canlyniadau diweddaraf hyn yn dangos, nad yw pethau yn gwella.

“I’r miloedd o bobl yna, mae bywyd yn parhau i fod yn anodd iawn.

Dywedodd 26% o bobl eu bod yn bwyta prydau llai neu'n hepgor prydau bwyd yn eu cyfanrwydd er mwyn ceisio lleddfu’r baich ariannol.

I deuluoedd eraill, maen nhw wedi cael eu gwthio i ddyled, gyda 29% o bobl yn benthyca arian a 13% ag ôl-ddyledion ar filiau, yn ol y ffigyrau diweddaraf.

Yn y tri mis hyd at Ionawr 2023, dywedodd 39% eu bod wedi mynd heb wres yn eu cartref.

Erbyn mis Gorffennaf 2023 roedd hyn wedi gostwng i 27%.

Er hyn, mae’r sefydliad yn rhybuddio gall y ffigwr hwn godi eto writh i’r tymheredd ostwng yn ystod misoedd y gaeaf.

Yn ôl y Sefydliad, mae pryderon y gallai’r heriau y gaeaf hwn fod yn arbennig o ddifrifol gyda llawer llai o gymorth ar gael i bobl sy’n cael trafferth gyda chostau uchel nag yn 2022.

Ychwanegodd Dr Evans: “Yn ystod pandemig Covid-19 a thros gaeaf 2022 gwelsom lywodraethau’r DU, Cymru a lleol yn darparu cefnogaeth sylweddol i amddiffyn pobl.

“Hyd yma, mae’r gefnogaeth sydd wedi ei haddo ar gyfer y gaeaf sydd i ddod, yn llawer llai arwyddocaol.

“Heb unrhyw arwydd bod yr argyfwng costau byw yn lleddfu, nid nawr yw’r amser iawn i gymryd cam yn ôl.”

Mae’r sefydliad yn rhybuddio mai pobl sydd ar fudd-daliadau, pobl sy'n rhentu, pobl anabl a rhieni i blant o dan 18 oed sydd yn profi’r sgil-effeithiau fwyaf.

Mae’r ffiygrau diweddaraf hefyd yn dangos bod 49% o bobl ar Gredyd Cynhwysol neu fudd-daliadau etifeddol yn hepgor neu'n torri'n ôl ar brydau bwyd.

Yr un yw’r sefyllfa i 48% o'r rhai sy'n rhentu'n breifat a 46% o bobl anabl, medd y sefydliad.

Yn ôl y ffigyrau, mae teuluoedd yn cael trafferth hefyd - rhwng Ebrill a Gorffennaf, fe wnaeth 47% o rieni i blant o dan 18 fenthyg arian.

Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, Dr Victoria Winckler:

  “Mae’r canlyniadau diweddaraf hyn yn dangos yn union pam ei bod hi mor bwysig bod pob lefel o lywodraeth yn ymateb dros y misoedd nesaf i gefnogi pobl gyda chostau byw.

“Mae’r argyfwng yr un mor ddifrifol â’r gaeaf diwethaf, ac mae angen cymorth ar y cartrefi sydd wedi’u taro galetaf i’w helpu nhw gyda bwyd a chadw’n gynnes yn ystod y misoedd nesaf.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 

“Rydyn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw drwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Yn ystod 2022-23 a 2023-24 roedd y gefnogaeth hon yn werth mwy na £3.3 biliwn.

"Eleni, er enghraifft, rydyn ni wedi darparu £38.5m ar gyfer ein Cronfa Cymorth Dewisol, sy'n darparu taliadau arian parod brys hanfodol i bobl sy'n wynebu pwysau ariannol difrifol.

“Rydyn ni'n wynebu’r sefyllfa ariannol anoddaf ers datganoli ac ni fydd ein setliad cyllid gan Lywodraeth y DU yn ein galluogi ni i ailadrodd llawer o’r cynlluniau a weithredwyd gennym ni y gaeaf diwethaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.