Calon Lân ac araith Ffrangeg Dan Biggar yn gwneud argraff wrth i garfan Cymru gyrraedd Ffrainc
Bydd carfan rygbi Cymru yn gobeithio eu bod nhw wedi taro'r nodyn cywir wrth iddyn nhw gyrraedd Ffrainc ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.
Mewn fideo sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Undeb Rygbi Cymru mae’r garfan gyfan gan gynnwys y rheolwr Warren Gatland yn canu’r emyn boblogaidd Calon Lân.
🏴 Calon Lân ❤️#WelshRugby | #ViveLeCymru pic.twitter.com/E3zfKKllIH
— Welsh Rugby Union 🏴 (@WelshRugbyUnion) September 3, 2023
Fe wnaeth Dan Biggar hefyd draddodi yn Ffrangeg yn y derbyniad yn Versailles, ar gyrion Paris, gan dderbyn cymeradwyaeth gan y dorf.
Mewn cyfweliad â BBC Wales, dywedodd Biggar ei fod o wedi bod yn nerfus.
“Ro'n i'n nerfus iawn, yn enwedig gan nad ydw i wedi bod yn Ffrainc ers rhai misoedd bellach,” meddai.
“Yn Ffrainc mae'n braf dangos ychydig o barodrwydd.
“Fe wnaeth y bobol yma roi sioe wych ymlaen i ni felly roedd hi’n braf rhoi tamaid bach yn ôl yn eu hiaith nhw.
"Rwy’n siŵr y bydd fy athro Ffrangeg yn fy nghywiro ar ychydig o bethau ond gobeithio ei fod wedi mynd i lawr yn iawn.”
🎙 Un petit discours de notre demi d'ouverture toulonnais!
— Welsh Rugby Union 🏴 (@WelshRugbyUnion) September 3, 2023
🏴 Dan Biggar of Rugby Club Toulonnais, speaking to the Versailles crowd on our welcome!
👏 Da iawn!#WelshRugby | #ViveLeCymru pic.twitter.com/0rI7HiOy3Z
Fe wnaeth y garfan ffarwelio â’u teuluoedd cyn gadael Gwesty’r Fro ym Mro Morgannwg fore dydd Sul.
Mae pencadlys y tîm yn ystod y gystadleuaeth wedi ei leoli yn Versailles.
Bydd y bencampwriaeth yn cychwyn nos Wener gyda’r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd ym Mharis.
Bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf ddydd Sul nesaf yn Bordeaux, am 20.00.
Llun: Undeb Rygbi Cymru