Newyddion S4C

Diddordeb ‘sylweddol’ mewn prynu Marina’r Felinheli

04/09/2023
Huw Watkins

Mae yna ddiddordeb "sylweddol" mewn prynu Marina Felinheli, yn ôl y fenter gymdeithasol sydd yn gobeithio ei feddiannu.

Fe aeth y Marina, oedd dan berchnogaeth cwmni'r Marine and Property Group, i ddwylo'r gweinyddwyr yn gynharach eleni.

Cafodd Menter Y Felinheli ei sefydlu eleni yn ogystal, gyda’r nod o greu prosiectau "er budd y gymuned" yn y pentref rhwng Caernarfon a Bangor.

Ond pan ddaeth i’r amlwg y byddai’r cei yn cael ei werthu gan y gweinyddwyr, fe benderfynodd y grŵp i geisio ei brynu.

Mae’r fenter yn gweithio i sefydlu cymdeithas er budd i’r gymuned, BenCom, cyn mynd ati i geisio casglu’r arian fydd ei angen i roi cynnig mewn ocsiwn cudd.

Mae’r grŵp yn gobeithio codi £1 miliwn ac yn bwriadu lansio system cyfranddaliadau ar gyfer aelodau’r gymuned dros yr wythnosau nesaf, yn ogystal â dod o hyd i gronfeydd eraill.

Dywedodd y grŵp eu bod nhw'n disgwyl y byddai sawl cwmni preifat yn cystadlu yn eu herbyn i brynu'r marina.

Ond roedd yna hefyd diddordeb cyhoeddus mawr yn eu cais nhw i'w brynu, medden nhw.

Image
Marina Felinheli
Marina Felinheli

Dywedodd un aelod o’r pwyllgor, Huw Watkins: “Be ‘da ni’n gwybod ydi faint sydd wedi mynegi diddordeb ac mae hynny yn 30, o be dw i’n ddeall. Faint o’r rheini sydd â gwir ddiddordeb, mae hynny’n gwestiwn arall. Ond mae’n sylweddol.

“Mae'n rhaid i ni sbïo ymlaen a bod yn uchelgeisiol o’r rhan y defnydd posib fedrwn ni wneud o’r lle, ond gwneud hynny mewn ffordd sensitif a chynaliadwy.

“Mi fyddan ni’n gobeithio adeiladu’n raddol ar y cynnig sydd yna i berchnogion cychod, ond hefyd i’r gymuned fusnes ag i’r gymuned yn ehangach.

“’Da ni’n rhoi ein hunain yn y sefyllfa gorau bosib i fynd ar ôl y cronfeydd sy’n mynd i alluogi ni i gyflawni lot o’r syniadau sydd gennym ni.”

‘Dafydd a Goliath’

Cafodd y marina ei adeiladu yn yr 1980au ar safle hen borthladd Dinorwig, lle roedd llechi o chwarel Dinorwig yn cael eu cludo i bedwar ban byd.

Ac mae un aelod o’r pwyllgor, y darlledwr Tudur Owen, yn dweud mai’r cyfle i "ail-afael yn hanes" y marina yw un o’r rhesymau y tu ôl i ymgais "uchelgeisiol" y grŵp.

“Mae’n gyffrous ofnadwy. Mae'n uchelgeisiol ond mae ‘na botensial anferth os fedrwn ni cael gafael ar y cei, fel cymuned," meddai.

“Mae 'na gymaint o bethau i adeiladu arno fo, mae 'na dry dock yn rhan o’r cei sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, felly mae hwnna’n adnodd ‘sa ni’n gallu ei ddefnyddio fel busnas.

Image
Tudur Owen
Tudur Owen

“Mae ‘na lot o waith i’w wneud i ail-afael ar hanes y lle, a’r cysylltiad rhwng y chwarel yn Dinorwig.

"Mae ‘na waith i’w wneud i estyn allan at yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis i weld os allwn ni greu cysylltiad rhwng y ddau, achos ers talwm mi oedd y ddau mor bwysig i’w gilydd.

“Mae’n rhaid i ni fedru deud y stori eto ac mae 'na gymaint o gyfleoedd gwahanol i fusnesau sefydlu o amgylch y cei hefyd, busnesau sy’n ymwneud â’r dŵr, twristiaeth a chwaraeon dŵr. Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd os fedrwn ni cael gafael ar y lle.

“Mae hi’n stori Dafydd a Goliath mewn ffordd. Da ni yn erbyn cwmnïau mawr sydd hefo pocedi dyfnion ac mae ganddyn ni lot o rwystrau o’n blaenau ni fel menter gymunedol ond ‘di hynny ddim yn ffrwyno ein brwdfrydedd ni a’r ffaith fod ni am roi uffar o dro i gael gafael ar y lle.

“Mi ydan ni’n sicr o ddifri am y peth ac mae ganddyn ni’r sgiliau i’w wneud o. Be da ni angen rŵan ydi’r modd ariannol i fedru cystadlu efo’r cwmnïau ma.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.