Newyddion S4C

Dyn o Wrecsam yn euog wedi i'w gŵn ymosod a lladd 22 o ddefaid

03/09/2023
American XL Bulldog

Mae dyn o Wrecsam wedi’i gael yn euog ar ôl i’w gŵn ymosod ar dda byw yn yr ardal, gan ladd 22 o ddefaid beichiog. 

Fe blediodd David Hughes, 26 oed o Ben y Wern, Rhosllannerchrugog, yn euog o fod yn berchennog ar gi peryglus nad oedd yn gallu ei reoli, a bod yn berchennog ar gi a wnaeth achosi pryder i dda byw.

Daw hyn ar ôl i’w ddau gi, oedd o fath American XL Bulldog, ymosod ar dda byw ar dir amaethyddol preifat yn Rhosllannerchrugog, wedi iddyn nhw ddianc o’u cartref ar 6 Mawrth eleni. 

Fe laddwyd 22 o ddefaid beichiog yn yr ymosodiad, gan anafu 48 o ddefaid ymhellach. 

Fe ymddangosodd Mr Hughes yn Llys Ynadon Wrecsam fis diwethaf. 

Fe gafodd Mr Hughes ei wahardd rhag cadw cŵn am bum mlynedd a gorchymyn i dalu dirwyon o £900.

Cafodd y ddau gi eu saethu yn y fan a'r lle gan berchennog y tir, a hynny ar ôl i’r ffermwr geisio rheoli’r cŵn ac atal yr ymosodiad. Fe wnaeth un o’r gŵn droi’n ymosodol tuag ato. 

Mae cost ariannol o hyd at £14,000 wedi bod i’r ffarmwr yn sgil colled ei dda byw. 

‘Galw’

Daw’r achos dedfrydu wedi galwadau gan ffermwyr ar berchnogion cŵn i’w cadw ar dennyn wedi i anifeiliaid fferm gael eu lladd mewn dau ddigwyddiad o fewn wythnos yn y gogledd.

Pan gafodd Undeb Amaethwyr Cymru eu holi ynglŷn â’r pwysigrwydd o gadw cŵn ar dennyn, dywedodd llefarydd ar eu rhan wrth Newyddion S4C: “Mae ymosodiadau cŵn ar dda byw yn parhau er sawl ymgyrch i addysgu perchnogion am y peryglon o fynd a’u cŵn am dro ger da byw. 

“Mae ein ffermwyr yn parhau i wynebu golygfeydd o gaeau llawn anifeiliaid marw, ac mae nifer yn wynebu pwysau ariannol ac emosiynol o ganlyniad. 

“Mae perchnogion cŵn anghyfrifol yn broblem sylweddol i aelodau’r undeb ac rydym yn parhau i alw am fwy o bwerau ymchwilio i'r heddlu, ac ar gyfer cosbau llymach i droseddwyr.

“Roedd y tro bedol a'r darpariaethau sy’n ymwneud ag ymosodiadau gan gŵn o fewn Bil Anifeiliaid a Gadwyd y DU yn ergyd sylweddol i’r undeb a’i haelodaeth.

“Er hynny, rydym yn parhau i weithredu i sicrhau ei fod yn orfodol i gŵn gwisgo tennyn o amgylch da byw.”

‘Angen atal’

Dywedodd PC Chris James o Heddlu Gogledd Cymru: “Rwy’n croesawu’r canlyniad yma yn dilyn digwyddiad erchyll i'r dioddefwr, sy’n dal i ddioddef gydag effeithiau’r digwyddiad hyd heddiw. 

“Mae'r effaith emosiynol ac ariannol ar y ffermwr wedi bod yn un sylweddol.

“Mae ymosodiadau ar dda byw yn drallodus iawn – nid yn unig i'r anifeiliaid, ond i'w ceidwaid hefyd. Mae'r costau ariannol ac emosiynol ynghlwm â digwyddiadau o'r fath yn hollol annerbyniol. 

“Mae gan berchnogion cŵn cyfrifoldeb er mwyn mynd i’r afael â digwyddiadau o’r fath, sydd wedi dod yn fwyfwy cyffredin.

"Mae’n mor bwysig i sicrhau bod anifeiliaid anwes yn cael eu cadw ar dennyn, dan reolaeth, yng nghefn gwlad – neu os ydyn nhw’n cael eu gadael adre’, bod y tŷ a’r ardd yn ddiogel.

“Perchnogion cŵn yw’r unig rai gall atal ymosodiadau, ac fe allwch dalu’r pris mwyaf os nad ydych yn gallu eu rheoli. 

“Os ydych eich ci wedi dianc yng nghefn gwlad, dylech gysylltu â’r heddlu ar unwaith fel ein bod yn gallu rhoi gwybod i ffermwyr lleol."

Llun: BullyB6/Creative Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.