Rygbi: Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer cystadleuaeth WXV yn Seland Newydd
Mae carfan tîm rygbi menywod Cymru ar gyfer cystadleuaeth y WXV yn Seland Newydd wedi ei chyhoeddi.
Mae Ioan Cunningham wedi enwi carfan o 38 o chwaraewyr, gyda’r mwyafrif wedi chwarae rhan yn ymgyrch y Chwe Gwlad eleni.
Bydd Cymru, sydd chweched ar restr ddetholion y byd, yn brwydro yn erbyn rhai o dimau gorau’r byd – Canada, Seland Newydd ac Awstralia.
Daeth cyhoeddiad yn gynharach yn yr wythnos fod saith chwaraewr ychwanegol wedi sicrhau cytundebau proffesiynol gan Undeb Rygbi Cymru.
Y cefnwr Courtney Keight, y canolwr Hannah Bluck, yr asgellwr Carys Williams-Morris, y prop Abbey Constable, Kate Williams a Bryonie King o’r rheng ôl a’r mewnwr Megan Davies yw chwaraewyr newydd llawn amser dros Gymru.
Bydd yr olwyr Jasmine Joyce a Kayleigh Powell hefyd ar gael, ar ôl i gytundebau hybrid newydd gael eu cytuno gyda thîm Saith Bob Ochr Prydain.
Mae’r garfan hon yn cynnwys chwaraewyr eraill fydd ar gytundebau tymor byr fydd yn eu caniatáu i gystadlu yn y WXV eleni.
Dwy o’r rheiny yw’r profiadol Sioned Harries a Kat Evans, tra i Ameila Tutt ennill ei chap cyntaf yn erbyn yr Eidal yng ngêm olaf Cymru yn Chwe Gwlad eleni.
Canolwr Caerwrangon, Carys Cox yw’r llall ac mae hi’n gymwys i chwarae dros Gymru gan fod ei thad yn Gymro. Mae hi wedi chwarae i dîm dan 20 Lloegr ond mae hi wedi byw yng Nghymru ers saith blynedd.
Mae pum chwaraewr o garfan Dan 20 Cymru, Nel Metcalfe, Siân Jones, Cana Williams, Paige Jones, Rosie Carr a Gwennan Hopkins, wedi cael gwahoddiad i ymarfer gyda’r garfan hŷn wedi’r daith ddiweddar yng Nghanada dros yr haf.
Cyn hedfan i Seland Newydd, mi fydd tîm Ioan Cunningham yn wynebu Unol Daleithiau America mewn gêm brawf yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn 30 Medi.
Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Rydym wedi enwi’r garfan hon wrth i ni baratoi ar gyfer y gêm brawf yn erbyn UDA ym Mae Colwyn ac ar gyfer yr her sy’n ein hwynebu pan fyddwn yn teithio i Seland Newydd.
“Mae’r chwaraewyr eu hunain eisiau gwella a does dim amheuaeth ein bod am fod yn dîm gwell nag yr oeddem yn y Chwe Gwlad erbyn i ni gystadlu yn y WXV.
“Mae Courtney Keight, Ffion Lewis, Kayleigh Powell a Gwen Crabb yn y garfan ond ni fyddant ar gael ar gyfer y WXV o ganlyniad i anafiadau. Ry’n ni’n canolbwyntio ar eu cadw nhw gyda’r garfan tra eu bod yn gweithio’n galed i ddychwelyd i’r maes chwarae.”
Carfan Cymru:
Blaenwyr: Kat Evans, Sioned Harries, Abbie Fleming, Alex Callender, Alisha Butchers, Bethan Lewis, Carys Phillips, Cerys Hale, Donna Rose, Georgia Evans, Gwen Crabb, Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Natalia John, Sisilia Tu’ipulotu, Abbey Constable, Bryonie King, Kate Williams, Cana Williams, Gwennan Hopkins, Rosie Carr, Paige Jones.
Olwyr: Amelia Tutt, Carys Cox, Courtney Keight, Ffion Lewis, Hannah Jones (capt), Jasmine Joyce, Kayleigh Powell, Keira Bevan, Kerin Lake, Lisa Neumann, Lleucu George, Lowri Norkett, Meg Webb, Niamh Terry, Robyn Wilkins, Carys Williams-Morris, Hannah Bluck, Megan Davies, Cath Richards, Nel Metcalfe, Sian Jones.
Llun: Asiantaeth Huw Evans