Newyddion S4C

Mohamed Al Fayed wedi marw’n 94 oed

02/09/2023
Al Fayed

Mae Mohamed Al Fayed, cyn berchennog siop foethus Harrods yn Llundain, a gollodd ei fab Dodi yn yr un gwrthdrawiad â laddodd y Dywysoges Diana yn 1997, wedi marw yn 94 oed.

Yn wreiddiol o’r Aifft, fe aeth Al Fayed ymlaen i greu ymerodraeth fusnes yn y Dwyrain Canol cyn symud i'r DU yn y 1970au, a phrynu Harrods am £615m yn 1985.

Fodd bynnag, ni chafodd ei gais i sicrhau pasbort Prydeinig, erioed ei gymeradwyo gan awdurdodau’r DU.

Fe brynodd Glwb Pêl-droed Fulham yn Llundain, gan wasanaethu fel cadeirydd y clwb, a sicrhau dyrchafiad y tîm cyntaf yn ôl i Uwchgyngrair Lloegr.

Fe dreulioedd y blynyddoedd diwethaf yn cwestiynu amgylchiadau marwolaethau Dodi a Diana, gan fyw yn ei blasty yn Surrey gyda'i wraig Heini.

Mewn datganiad a ryddhawyd ddydd Gwener, dywedodd ei deulu: “Mae Mrs Mohamed Al Fayed, ei phlant a’i hwyrion yn dymuno cadarnhau bod ei gŵr annwyl, eu tad a’u taid, Mohamed, wedi marw’n heddychlon o henaint ddydd Mercher Awst 30, 2023.

"Fe fwynhaodd ymddeoliad hir a bodlon wedi'i amgylchynu gan ei anwyliaid."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.